Prifysgol Bangor a’r Gymuned

Diweddariad ar ddatblygiadau’r Brifysgol o ddiddordeb ac o fudd i’r gymuned leol (Ebrill 2023)

gan Iwan Williams

Mae wedi bod yn gyfnod prysur yn y Brifysgol, gyda’r gwaith a’r astudiaethau yn ei hanterth, a nifer o ddigwyddiadau a datblygiadau cyffrous wrth i ni adael y gaeaf ac edrych tua’r gwanwyn.

Ar ddechrau’r flwyddyn, agorodd Cronfa Cydweithio Gymunedol newydd y Brifysgol. Dyma gronfa sydd wedi ei chreu er mwyn sbarduno gweithgareddau ymgysylltu dinesig gyda phartneriaid allanol. Bu chwe cynnig yn llwyddiannus yn yr alwad cyntaf. Edrychwn ymlaen i weld y prosiectau yma yn datblygu a rhannu rhagor o wybodaeth amdanynt dros y misoedd nesaf, gyda’r ail alwad yn cael ei chyhoeddi yn mis Ebrill/Mai.

Yn mis Mawrth, cyfwyd cyfarfod buddiol o Fwrdd Cymunedol y Brifysgol. Trafodwyd ystod o faterion sy’n berthnasol i’r Brifysgol a phartneriaid allanol ym Mangor a thu hwnt. Cynhaliwyd y digwyddiad Varsity flynyddol hefyd yn mis Mawrth, gyda Prifysgol Bangor yn cystadlu gyda Phrifysgol Aberystwyth mewn 44 o gystadlaethau chwaraeon, ac mae’n falch gennym gyhoeddi fod Prifysgol Bangor wedi codi’r gwpan am y seithfed flwyddyn yn olynol!

Mae rhaglen Pontio ar gyfer y gymuned yn parhau gyda Chaffi Babis misol, sesiynau ioga, a gweithdai dawnsio wythnosol ar gyfer unigolion sy’n byw gyda Parkinson’s. Cynhaliwyd Gŵyl Gerdd Bangor yn Pontio yn mis Chwefror, a wnaeth cynnwys sesiwn ‘Camau Cerdd’, yn cyflwyno cerddoriaeth i fabis a phlant ifanc. Fe fydd Sioe Haf Dawnsio y Brifysgol, o dan arweiniad myfyrwyr, yn digwydd yn mis Mai, a bydd Ysgol Friars yn llwyfannu eu cynhyrchiad o ‘Matilda’ yn Theatr Bryn Terfel ym mis Mehefin.

Mae lleoliad ‘Ar y Lôn’ M-SParc ar Stryd Fawr Bangor yn parhau i lwyddo, gyda’r safle yn le poblogaidd gyda myfyrwyr a pobl lleol i alw heibio a chymryd mantais o’r llefydd gweithio, defnyddio’r Gofod Gwneuthurwr Ffiws a mynychu gweithdai e.e. Caffi Trwsio ar gyfer beiciau, peiriannau gwnïo neu cyfrifiaduron. Cynhelir ‘Egni 2023’, digwyddiad i drafod prosiectau ynni strategol y rhanbarth gyda phwyslais ar ymgysylltu gyda phobl ifanc leol, yn M-SParc ar 16eg Mai.

Roedd yr Ardd Fotaneg yn Nhreborth dan ei sang yn ddiweddar wrth iddynt gynnal eu Harwerthiant Blanhigion, a nifer o unigolion a busnesau bach yn gwerthu mêl, crefftau, sebon a chynnyrch lleol. Wrth edrych ymlaen, fe fydd Gŵyl Draig Beats yn digwydd yn yr Ardd yn Nhreborth ar 10fed Mehefin. Croeso cynnes i bawb i’r digwyddiad poblogaidd yma, sy’n codi arian i Dr Sophie Williams (cyn aelod staff Prifysgol Bangor sydd yn byw mewn gofal bellach) ac sy’n agored i deuluoedd.

Ar ran staff a myfyrwyr y Brifysgol, dymunwn Pasg Hapus hwyr i chi gyd ac edrychwn ymlaen i’ch diweddaru ar waith a datblygiadau perthnasol y Brifysgol yn ystod y flwyddyn.

Iwan Williams, Uwch Swyddog y Genhadaeth Ddinesig, Prifysgol Bangor