£1.5 miliwn am faes “golff gwirion”?

Mae “cwad” Adeilad Celfyddydau’r Brifysgol yn cael ei ailwampio: ond pam?

gan Howard Huws

Allwch chi ddim mentro i “cwad” Adeilad y Celfyddydau Prifysgol Bangor ar Ffordd y Coleg y dyddiau hyn heb sylwi bod yna waith mawr yno.

Mae’r tir glas a’i ddeial haul, a’r maes parcio ceir, oll wedi mynd, ac y mae gweithwyr wrthi’n bwyllog iawn yn gosod gwlâu planhigion concrit a phafin cerrig.

Nid oes sicrwydd pam y cafwyd gwared ar ofod parcio sydd mor brin yn y cyffiniau, ac ar dir glas prydferth yn y dyddiau ecolegol-ymwybodol hyn. A hynny er mwyn creu arena ddiffrwyth a fydd yn ymdebygu, yn y diwedd, i libart canolfan siopa difywyd, neu faes “golff gwirion.”

A oes a wnelo hyn ag ymadawiad y Cyn Dirprwy-Ganghellor, Iwan Davies? Ai dyma ei gyfraniad coffaol ef at olwg y Brifysgol?

Os felly mae’n gofeb ddrud iawn, oherwydd clywyd crybwyll mai cost y pafin newydd fydd £1,500,000.

Ie, miliwn a hanner: a phawb o dan yr argraff fod y Brifysgol yn brin o bres, ac yn gorfod tocio’n ddidrugaredd. Ddim ar brosiectau gweigion a diangen fel hyn, fodd bynnag.