Encôr: canu er budd Gafael Llaw ag Ambiwlans Awyr Cymru

Mae cyd-ganu yn lles i’r meddwl a’r elusennau!

Ruth Wyn Williams
gan Ruth Wyn Williams
Dave Evans a Carina Roberts o Gafael Llaw ag Alwyn Jones Ambiwlans Awyr Cymru yn derbyn rhodd gan Kiefer Jones, arweinydd Encôr
Encôr yn ymarfer yng Nghapel Berea Newydd, Bangor

Braf oedd cael croesawu Dave Evans a Carina Roberts ar ran Gafael Llaw ac Alwyn Jones o Ambiwlans Awyr Cymru i’n hymarfer wythnosol yng Nghapel Berea Newydd i dderbyn rhodd ar ran yr elusennau. Eleni perfformiodd côr Encôr dan arweiniad Kiefer Jones, ar Bier Garth Bangor dwywaith, a derbyniwyd rhodd gan Ffrindiau’r Pier Garth Bangor i’r elusennau. Hefyd cynhaliwyd gweithdy canu a chyngerdd Nadolig gydag artistiaid lleol. Gyda chynnig hael banc Santander am arian cyfatebol mae Ambiwlans Awyr Cymru a Gafael Llaw yn derbyn £1,400 yr un.

Rydym mawr obeithio bydd 2022 yn llawn cyfleoedd i berfformio a chymdeithasu fel côr a chasglu rhagor o arian ar gyfer elusennau lleol. Yn ddiweddar derbyniodd Encôr grant o Gronfa Unigrwydd ac Ynysigrwydd Cymdeithasol 2021-2022 fydd yn cefnogi’r côr i fuddsoddi mewn offer sain, adnoddau hygyrch i’r aelodau a gweithgaredd i fwynhau cyd-ganu er lles corfforol a meddyliol. Mae’n diolch yn fawr i bob aelod am eu gwytnwch, dyfal barhad, eu gofal o’i gilydd drwy ddilyn bob mesur rhesymol er mwyn cael dod at ei gilydd. Rydym yn croesawu aelodau newydd a chyfleoedd i berfformio, a chroeso i chi cysylltu: encor.wyn@gmail.com