Isio chwarae rhan yn nyfodol y Felinheli?

Dewch i’r Cyfarfod Cyhoeddus

Gŵyl y Felinheli
gan Gŵyl y Felinheli
356033111_593512049556398

Y Felinheli

Ydach chi’n byw yn y Felinheli?

Fasa chi’n licio gweld prosiectau cymunedol yn cael eu creu er budd ein pentref?

Oes gynnoch chi farn a syniadau ar sut i ddatblygu a gwella adnoddau’r pentref?

Os oes gynnoch chi ddiddordeb gweld Menter Gymunedol newydd yn cael ei sefydlu yn Felin i greu a gweithredu prosiectau cymunedol cyffrous, dewch i gyfarfod agored yn y Shed, 41 Stryd Bangor, y Felinheli am 19:00 Nos Fercher 26ain Gorffennaf i drafod syniadau.

Croeso cynnes i bawb!