gan
Ysgol Y Felinheli
Bu disgyblion Ysgol Y Felinheli yn cael hwyl yn dathlu Dydd Miwsig Cymru ddydd Gwener.
Daeth plant i’r ysgol wedi gwisgo fel cantorion enwog Cymru ac roedd cerddoriaeth Gymraeg yn cael ei chwarae ar hyd y coridorau drwy’r dydd.
Pleser oedd cael gwahodd DJ Lisa Gwilym atom i’r ysgol i drafod ei gwaith ac roedd ei chasgliad o hen recordiau yn anhygoel!
I gloi’r diwrnod, cawsom ddisgo hwyliog gyda dim ond cerddoriaeth Gymraeg.
Gobeithio fod pawb wedi mwynhau dathlu Dydd Miwsig Cymru!