Diolch, Derek.

Cofio Derek Staton

Gŵyl y Felinheli
gan Gŵyl y Felinheli

Mae pwyllgor Gŵyl y Felinheli yn drist iawn o glywed am farwolaeth Derek (Staton) yn ddiweddar.

Mae gennym atgofion cynnes iawn o nosweithiau bingo bywiog a hwyliog yn ei gwmni. Roedd ganddo ffordd ddihafal o gynnal y nosweithiau, a bydd ei wên a’i bersonoliaeth annwyl yn aros yn y cof.

Bydd angladd Derek yn cael ei gynnal ar 4 Hydref am 1:30 yn Amlosgfa Bangor, a bydd croeso i bawb yn y Garddfon am ddiod i ddathlu ei fywyd.

Diolch, Derek.