Dim i’w ddangos ar ol dau berfformiad da

Colli dwy gêm, rhywsut!

gan Gwilym John

Cafwyd perfformiad gwych gan Felin yn Saltney ar ddydd Sadwrn, Chwefror 4ydd, ond er rheoli tri chwarter cyntaf y gêm, llwyddo i golli 0-2. Methu rhoi y bel yn y rhwyd oedd y broblem. Dim ots beth oedd yr hogiau yn gwneud, nid oedd y bel am groesi’r llinell. Roedd hogiau Saltney hyd yn oed yn rhyfeddu eu bod wedi llwyddo i ennill!

A’r wythnos ganlynnol, Mynydd Fflint oedd yr ymwelwyr i Seilo, a nhwythau yn drydydd yn y gynghrair, ac yn ffansio eu hunain i fod efo siawns am y teitl. Eto, Felin yn chwarae yn dda iawn, yn creu cyfleoedd ac yn chwarae peldroed cywrain a chlefar yn erbyn tim da.

Aeth Felin ar y blaen yn gynnar yn yr ail hanner gydag Aled “Pob” Griffith, y capten yn rhwydo yn dilyn symudiad da i lawr yr asgell dde. Ar yr awr, bu rhaid i Jack Cain adael y cae ar ol tacl hyll iawn, a rhaid iddo fynd yn syth i Ysbyty Gwynedd. Posib y bydd o allan am gyfnod hir, gyda anaf i’w benglin. Gwellhad buan iddo.

Roedd yr amddiffyn yn fler yn gadael yr ymwelwyr i ddod yn gyfartal ryw bum munud yn ddiweddarach. Fel oedd y gêm yn dod tua’i therfyn, buasai gêm gyfatal wedi bod yn ddigon teg i’r ddau dîm. Ond gyda chic olaf y gêm i pob pwrpas, yn y 98ed munud, sgoriodd Mynydd Fflint i ddwyn y pwyntiau. Roedd ffawd unwaith eto yn greulon i CPD Y Felinheli.

Dwy gêm yn mis Chwefror lle ddyla Felin fod wedi cael o leiaf pedwar allan o chwe phwynt, a gorffen heb yr un! Rhaid i lwc droi rywbryd, yn erbyn Llanrwst mewn gêm gwpan Sadwrn yma (18ed) siawns?