Dathlu rôl Bangor yn cefnogi mwy o fyfyrwyr i fynd i’r brifysgol

Mae ‘Ymestyn yn Ehangach’ yn cefnogi disgyblion i gael mynediad at addysg bellach

Siân Gwenllian
gan Siân Gwenllian
vg

Yr Athro Andrew Edwards a Siân Gwenllian AS yn dathlu’r rhaglen Ymestyn yn Ehangach.

Bwriad y rhaglen Ymestyn yn Ehangach yw cefnogi dysgwyr i gael mynediad at addysg bellach ac addysg uwch, ac yn ddiweddar cynhaliwyd digwyddiad yn y Senedd, wedi’i noddi gan Siân Gwenllian AS, i ddathlu gwaith arloesol y rhaglen.

Mae rhaglen Ymestyn yn Ehangach Gogledd Cymru yn cael ei arwain gan Brifysgol Bangor, ac yn ddiweddar cafodd diwedd y cyfnod peilot ei ddathlu drwy rannu llwyddiant dysgwyr a straeon myfyrwyr israddedig yn Adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd.

I gyd-fynd â’r digwyddiad cyhoeddwyd bod y cynllun, sy’n paru dysgwyr o flwyddyn 12 ysgolion a cholegau gyda myfyrwyr prifysgol wedi derbyn cyllid ar gyfer ail flwyddyn.

Mae’r cynllun, sy’n helpu’r mentoriaid a’r sawl sy’n cael eu mentora i ddatblygu sgiliau ar ôl y pandemig, wedi cynnig cyfleoedd newydd i fyfyrwyr rannu profiadau o fyw ac astudio mewn prifysgolion yng Nghymru.

Mae 250 o ddisgyblion blwyddyn 12 eisoes wedi cael eu mentora gan fwy na 100 o fyfyrwyr israddedig trwy app dwyieithog Brightside.

Roedd y cynllun yn blaenoriaethu pobl ifanc o gefndiroedd sydd wedi’u tangynrychioli mewn addysg uwch, yn cynnwys disgyblion anabl, disgyblion o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig, a disgyblion sy’n ofalwyr.

Dywedodd yr Athro Andrew Edwards, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Bangor dros y Gymraeg, Ymgysylltu Cymunedol a Phartneriaethau Strategol:

“Rydyn ni’n hynod falch bod y rhaglen fentora’n parhau. Mae’r fenter hon yn gyfle unigryw i ddysgwyr gael cipolwg uniongyrchol ar fywyd myfyriwr prifysgol yng Nghymru. Gall mentoriaid roi persbectif personol ar addysg uwch, gan gynnig cyngor gwerthfawr ar faterion fel cael gafael ar gymorth ariannol ac adnoddau sgiliau adolygu. Mae’r gefnogaeth hon yn magu hyder y rhai sy’n cael eu mentora ac yn eu hannog i edrych yn fwy hyderus ar yr amrywiaeth o gyfleoedd sydd ar gael mewn addysg uwch.”

Yn ôl Siân Gwenllian AS:

 

“Dwi’n falch iawn o’r cyfle i noddi digwyddiad mor ysbrydoledig.

“Mae’n bwysig fod pobl ifanc o bob cefndir yn teimlo bod addysg uwch yn faes hygyrch, ac mae rhaglenni sy’n gweithio i ehangu gorwelion y bobl ifanc hynny yn hollbwysig.

“Mae’n galonogol bod gwaith Ymestyn yn Ehangach wedi’i gydnabod a bod cyllid pellach wedi’i glustnodi.”

Roedd hanner y disgyblion a gafodd eu mentora yn dod o ardaloedd sydd ymhlith y mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Roedd gan ddeg y cant o’r disgyblion anabledd, ac roedd 12% yn dod o gefndir Du, Asiaidd neu leiafrif ethnig. Roedd 7% o’r rhai a gafodd eu mentora yn ofalwyr, ac roedd chwarter y disgyblion yn siaradwyr Cymraeg.