Cystadleuaeth Cacen Nadolig

Ewch i nôl y llwy bren!

Gŵyl y Felinheli
gan Gŵyl y Felinheli

Mae ’na ychwanegiad blasus i Farchnad Nadolig Gŵyl y Felinheli ‘leni, ac mae ’na gyfle i bobol Felin ddangos eu sgiliau cwcio!

Mae’r Gystadleuaeth Cacen Nadolig yn gwahodd cystadleuwyr i gynnig unrhyw gacen ar thema’r Nadolig, wedi ei phobi gan unigolyn, teulu, neu griw o ffrindiau o unrhyw oed.

Bydd angen dod â’r gacen i’w beirniadu yn y Neuadd Goffa ar ddiwrnod y Farchnad, a bydd yr enillydd yn cael ei ddewis ar y diwrnod.

A chofiwch, does ddim rhaid iddi fod yn gacen nadolig (cacen ffrwythau), na phwdin nadolig, dim ond ei bod â thema nadoligaidd, neu wedi ei haddurno’n nadoligaidd.

Felly efo bron i fis i fynd, does gan neb esgus.

Bydd y Farchnad Nadolig yn cael ei chynnal yn Neuadd Goffa’r pentra ar ddydd Sul Rhagfyr 17. Bydd stondinau, cerddoriaeth gan fand pres, Siôn Corn i’r plant, a gwin cynnes a mins pei i’r oedolion. Mae mynediad yn £3 i oedolion ac am ddim i blant.