Caffi Trwsio Bangor

Offer neu ddillad wedi torri? Peidiwch â phrynu un newydd

gan Marian

Mae caffi trwsio yn adeilad M Sparc (ar y stryd fawr ger y Gadeirlan) fore Gwener 28.04.23

Yn y gorffennol mae’r caffi wedi derbyn nwyddau fel camcorders, peiriant coffi, golau Nadolig, lamp a radio dab .

Mae’r caffi yn croesawu’r pethau canlynol:

  • Dyfeisiau Trydanol Bach
  • Brodwaith / Teganau Meddal
  • Dillad a Thecstilau
  • TG – Cyfrifiaduron/Gliniaduron/Ffonau Symudol/Thabledi a mwy
  • Uwchgylchu eitemau gyda’n Gofod Gwneud
  • Addasiadau Beic Sylfaenol
  • Eitemau cyffredinol

Mae’r caffi yn chwilio am wirfoddolwyr a Thrwswyr ar gyfer y canlynol 

  • Dodrefn Bach Cyffredinol / eitemau cartref
  • Addurniadau (ornaments)

Bydd pob offer trydanol yn cael ei arbrofi gyda pheiriannau ‘PAT Testing’

Mae croeso i chi alw os am gwestiwn ynglŷn â rhaglen ar eich cyfrifiadur neu eich ffôn clyfar hefyd.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau am unrhyw eitem cyn y digwyddiad, mae croeso i chi gysylltu  – 077591 29606

Nodyn Pwysig

Caniateir 2 eitem yn unig i gael ei drwsio gan bob un ymwelydd ar y dydd.