Cadeirydd gŵyl yn diolch i’r pentra am eu cefnogaeth

Islwyn yw cadeirydd Gŵyl y Felinheli

Gŵyl y Felinheli
gan Gŵyl y Felinheli
357405241_599269578980645

Rhai o aelodau Pwyllgor Gŵyl y Felinheli

Roedd diwrnod cyntaf Gorffennaf yn benllanw mwy nag wythnos o weithgareddau a drefnwyd gan bwyllgor Gŵyl y Felinheli ar lannau’r Fenai, a heddiw mae cadeirydd yr ŵyl wedi diolch i drigolion y pentref.

 

Yn ôl Islwyn (Bonc) Owen:

“I fi yn bersonol, ac i lawer o rai eraill, mi fydd Gŵyl 2023 yn aros yn y co’ fel un arbennig.

“Dychwelodd yr ŵyl i’r Marcî ar lannau’r Fenai efo wyth diwrnod o weithgareddau, yn gyfuniad o hen ffefrynnau yn ogystal â gweithgareddau newydd sbon.

“Roedd noson Almaenig y Felinkeller yn ychwanegiad poblogaidd!

“Roedd rhai o gonglfeini wythnos yr Ŵyl fel y Cwis a’r Bingo yn brysurach nag erioed, a’r Marcî dan ei sang. Roedd tocynnau’r Noson Lawen wedi eu gwerthu yn gynnar yn yr wythnos.

“Denodd y Stomp, yr Oedfa, yr ioga, sioe’r ysgol, yr helfa drysor, y sesiynau dawnsio, y ras 10K a diwrnod yr henoed dorf dda iawn hefyd.

“Mae’n anodd crynhoi’r Ŵyl mewn ’chydig o eiriau, ond mae’n rhaid cyfeirio at y gwaith celf ar safle’r ŵyl eleni, wedi’i drefnu gan rai o aelodau newydd y Pwyllgor. Wrth dynnu plant a phobol ifanc y pentra at ei gilydd ar ddydd Sadwrn cynta’r Ŵyl, roedd llond y lle o liw a chyffro ar ddiwrnod y Carnifal.

“Rhaid talu teyrnged i’r Pwyllgor cyfan am eu brwdfrydedd, eu gwaith caled, a’u syniadau. Hoffwn ddiolch i bob gwirfoddolwr a roddodd o’u hamser yn ystod wythnos yr Ŵyl hefyd. A rhaid i mi gymryd y cyfle i ddiolch i’n Noddwyr ac i Gyfeillion yr Ŵyl.

“Ond mae’r diolch mwyaf i bobol y Felinheli, am eu cefnogaeth bob blwyddyn. Chi ydi’r bobl sy’n gwneud Gŵyl y Felinheli yn ŵyl mor arbennig, ac oni bai amdanoch chi, byddai gwaith y Pwyllgor yn amhosib.”