Barbeciw yn y Brifwyl

Ryseitiau hawdd i garafanwyr prysur gan Elin Walker Jones

gan Menna Baines

Chwilio am ryseitiau hwylus a hawdd ar gyfer eich arhosiad yn y garafan, boed hynny yn y Steddfod neu yn unrhyw le arall? Un ateb, meddai Elin Walker Jones, sy’n garafanwraig brofiadol, yw cael barbeciw bach. Meddai Elin, “Mae posib creu gwledd yn gyflym a hawdd ar farbeciw gan fwynhau’r haul yr un pryd!” Dyma ambell rysáit ganddi.

Cebabau llysieuol

Hawdd creu cebabau llysieuol gan ddefnyddio llysiau cymysg ac ychydig o gaws halloumi os oes gennych beth. Mae halloumi yn ddelfrydol ar gyfer ei bobi gan ei fod yn dal ei siâp wrth goginio. Cofiwch fwydo’r sgiweri cyn rhoi’r llysiau arnynt. Mae angen iddynt fwydo am tua hanner awr mewn dŵr oer rhag iddynt losgi ar y barbeciw. Torrwch amrywiaeth o lyisau fel corbwmpen, nionyn coch, tomatos, pupur coch, gwyrdd neu felyn, madarch, hyd yn oed planhigyn wy (aubergine) – y peth pwysig yw eu torri fel eu bod i gyd tua’r un maint. Wedyn gosod y llysiau (a’r halloumi os ydych yn ei ddefnyddio) ar y sgiweri, taenu ychydig o olew olewydd neu ddresin syml drostynt a rhoi’r sgiweri yn syth ar y barbeciw am ychydig funudau, tan y bydd y llysiau’n newid lliw a meddalu.

 

Merllys

Mae merllys (asparagus) hefyd yn hawdd a blasus ar farbeciw. Taenwch ychydig o fenyn neu olew dros y llysiau gwyrdd bendigedig yma, eu lapio mewn ffoil, a’u coginio am ychydig funudau ar y barbeciw.

 

Cyw iâr mewn iogwrt

Cefais fy ysbrydoli gan Thomasina Miers y tro hwn eto. Mae ei brwdfrydedd hi dros flas, lliw ac oglau cynhwysion yn heintus a’i ryseitiau bob amser yn werth yr ymdrech! Y tro hwn, mae hi’n cymysgu iogwrt a phicl leim ac yn mwydo cyw iâr ynddo.

CYNHWYSION

4–6 darn o gyw iâr amrwd

200ml o iogwrt Groegaidd

Tua 3 llwy fwrdd o bicl leim

3–4 ewin garlleg

2 lwy de o turmeric

Sest croen leim

DULL

Rhoi’r cyw iâr mewn powlen fawr.

Cymysgu gweddill y cynhwysion cyn gorchuddio’r cyw iâr efo’r gymysgedd.

Rhoi’r cyw iâr yn yr oergell i fwydo am hanner awr – neu dros nos os yn bosib.

Mae’n well tynnu’r cyw iâr allan o’r oergell tua hanner awr cyn coginio er mwyn dod â’r cig i fyny i wres yr ystafell. Coginio’r cyfan mewn ffoil ar y barbeciw am ryw hanner awr, gan droi’r pecynnau ffoil hanner ffordd drwodd, ac agor y pecyn am y 10 munud olaf. Bydd yr iogwrt wedi carameleiddio. Gwnewch yn siŵr fod y cyw iâr wedi coginio reit drwodd at yr asgwrn, a bod unrhyw hylif sy’n dod wrth brocio’r cig yn glir.

Salad

Salad syml yw hwn – tomatos, ciwcymbyr, nionyn coch, tsili ac unrhyw berlysiau meddal sydd gennych (mintys, persli, coriander, cennin syfi, basil ac ati). Mae Miers yn ychwanegu mango at y salad sy’n rhoi blas melys egsotig i’r cyfan. Gorau oll os ydi’r mango yn feddal iawn.

CYNHWYSION

Hanner nionyn coch

Tua 200g tomatos bach

Hanner ciwcymbyr

Hanner mango mawr

Tsili bach (gwyrdd oedd gen i)

Sudd leim

Dyrnaid mawr o goriander

Dyrnaid mawr o fintys

Torri’r cyfan yn ddarnau mân a’i gymysgu mewn powlen fawr a’i weini efo’r wledd.

Pwdin

Toddi siocled mewn darn o ffoil a gorchuddio mefus â’r siocled. Nefoedd! Gweini’r cyfan efo gwydraid bach o sauvignon blanc o Seland Newydd neu lemonêd cartref. Mwynhewch!

Ymddangosodd y ryseitiau uchod gyntaf yn y Goriad. Diolch i’r golygyddion am ganiatâd i’w hatgynhyrchu yma.