Bangor uchaf yn y 30au

Map Arial Myfyr Thomas

gan Marian
Map Arial Myfyr Thomas

Map Arial Myfyr Thomas o Fangor Uchaf yn y 30au

Angharad Tomos

Blue-Photo-San-Francisco-1

Clawr Arlwy’r Sêr

Mae gan Fangor Uchaf le amlwg yng nghyfrol ddiweddaraf Angharad Tomos – Arlwy’r Sêr. Ei thaid, David Thomas yw un o brif gymeriadau’r nofel sy’n olrhain hanes Silyn Roberts a’i wraig Mary Silyn. Roedd y tri yn gymdogion ym Mangor Uchaf.

Dyma fap gan Arial Myfyr Thomas (tad Angharad) o Fangor Uchaf yn y 30au pan oedd o’n blentyn. Betws sydd wedi ei liwio’n las oedd cartref y teulu.

A oes gennych chi atgofion neu luniau o’r cyfnod hwn? Byddai’n dda clywed gennych chi.

Mae Arlwy’r Sêr yn nofel ardderchog yn gyfuniad o nofel hanesyddol a stori garu.  Drwy gymysgu’r degawdau yn gelfydd yn hytrach na chynnig yr hanes yn gronolegol, mae Angharad yn mynd a’r darllenydd nôl a blaen drwy fywydau cyffrous a chythryblus y prif gymeriadau. Mae’r awdur yn amlwg wedi trwytho ei hun yn yr hanes gan gyflwyno nofel gelfydd, ddifyr ac addysgiadol. Mwynhewch ei darllen.