Band nu-metal o Fangor CELAVI ar BBC Radio 1 am y trydydd tro’n olynol!

CELAVI yn parhau i ’neud fwy o sŵn ar BBC Radio 1!

Sarah Wynn Griffiths
gan Sarah Wynn Griffiths
CELAVI - BITE MY TONGUE - BBC RADIO 1

Dychwelodd y band metal | nu-metal | goth CELAVI i donnau awyr BBC Radio 1 yr wythnos dwethaf am y trydydd tro’n olynol.

Cafodd y gân ‘BITE MY TONGUE’ ei ddewis gan Alyx Holcombe i’w gael ei chwarae ar BBC Introducing Rock gydag Alyx Holcombe ar BBC Radio 1.

Mae Alyx Holcombe yn chwarae caneuon roc newydd orau o dan y radar o BBC Introducing ar ei sioe radio.

Cafodd ‘BITE MY TONGUE’ ei ryddhau 27ain o Hydref ar y label recordiau annibynnol ac mae’r trac eisoes wedi cael cefnogaeth gan Adam Walton ar BBC Introducing in Wales a Mirain Iwerydd ar BBC Radio Cymru.

Mae ‘BITE MY TONGUE’ oddi ar EP newydd CELAVI, sydd yn cael ei ryddhau yn 2024 (wedi’i chefnogi gan Help Musicians)

Mae ‘BITE MY TONGUE’ hefyd wedi ei chynnwys hefyd ar restr chwarae golygyddol ‘Breakthrough Rock’ Amazon Music.

CELAVI ydi Sarah a Gwion. Daw’r ddeuawd ffyrnig o Fangor, Gogledd Cymru, gyda’u sŵn anthemig ac unigryw nu-metal, sy’n chwalu’r ffiniau gyda’u ddylanwadau fetal, goth, diwydiannol, electro a roc. Maent yn galw eu hunain yn nu-emo.

Gallwch wrando eto ar ‘BITE MY TONGUE’ gan CELAVI ar BBC Introducing Rock gydag Alyx Holcombe ar BBC Radio 1 yma: https://www.bbc.co.uk/programmes/m001rwnx

Yn ogystal, mae BBC Introducing in Wales, BBC 6 Music, BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru wedi cefnogi CELAVI, gyda BBC Radio Cymru yn disgrifio’r band fel y peth mwyaf swnllyd i ddod o Ogledd Cymru!

Gyda miliynau o ffrydiau yn rhyngwladol, a chydnabyddiaeth gan rai o’r rhestrau chwarae golygyddol mwyaf yn eu maes, mae CELAVI yn arwain y ffordd gyda’u sŵn awthentig!

Cadwch lygad ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol CELAVI am fwy o newyddion cyffrous yn fuan!

Am ragor o wybodaeth: musicbymeraki@gmail.com neu www.wearecelavi.com