Band nu-metal o Fangor CELAVI yn gwneud mwy o sŵn ar BBC Radio 1!

CELAVI yn cael sylw ar ‘Future Alternative’ gyda Nels Hylton ar BBC Radio 1

Sarah Wynn Griffiths
gan Sarah Wynn Griffiths
CELAVI - Future Alternative - BBC Radio 1

Dychwelodd y band metal | nu-metal | goth CELAVI i donnau awyr BBC Radio 1 y bore yma ar y sioe ‘Future Alternative’ gyda Nels Hylton.

Cafodd y gân ‘TEMPEST’ oddi ar albwm newydd CELAVI o’r enw ‘DOLOREM’ ei gynnwys ar restr chwarae’r sioe ‘Future Alternative’, a oedd yn cynnwys awr o’r gerddoriaeth amgen orau.

Ochr yn ochr â’r ddeuawd, roedd llu o artistiaid enfawr gan gynnwys Nothing But Thieves, Oxymorrons a Demi Lovato.

Ymddangosodd eu hanthem ‘NEB ARALL’ oddi ar yr albwm ar ‘BBC Introducing Rock’ gydag Alyx Holcombe ar BBC Radio 1 yn ddiweddar, a chafodd ei chynnwys hefyd ar restr chwarae golygyddol ‘Breakthrough Rock’ Amazon Music.

Dywedodd CELAVI “Mae hyn yn golygu popeth i ni! Mae’n anrhydedd cael sylw ar BBC Radio 1 ddwywaith – gwireddu breuddwyd! Ni allwn ddiolch digon i Nels Hylton am y cyfle hwn a’n cynnwys yn ei sioe eiconig. Mae’n blatfform anhygoel i ni gael ein cynnwys gyda chymaint o artistiaid anhygoel. Roedd clywed Nels yn deud wrth y gwrandawyr i gofio ein henw ni yn ffantastig – diolch o galon!”

Gwrandewch ar ‘TEMPEST’ gan CELAVI ar ‘Future Alternative’ ar BBC Radio 1 gyda Nels Hylton yma: www.bbc.co.uk/programmes/m001q5cn

Mae albwm ‘DOLOREM’ gan CELAVI ar gael nawr: https://linktr.ee/wearecelavi

CELAVI yw Gwion a Sarah, band metal | nu-metal | goth o Fangor, Gogledd Cymru. Dylanwadir eu cerddoriaeth gan sŵn diwydiannol | electro-roc, gan gyflwyno elfen newydd i fetal. Mae sŵn eu cerddoriaeth yn cael ei gyrru gan y gitars trwm a’n gwrthdaro’n ddramatig gyda llais meddal Sarah, sy’n ‘neud iddynt sefyll allan o’r dorf.

Ar ôl haf prysur o giggio a rhyddhau eu halbwm cyntaf ‘DOLOREM’ gyda pherfformiad byw yn HMV Caerdydd, mae’r ddeuawd ar hyn o bryd yn gweithio ar eu EP newydd, gyda chefnogaeth Help Musicians a disgwylir iddo gael ei ryddhau yn 2024.

Yn ogystal, mae BBC Introducing in Wales, BBC 6 Music, BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru wedi cefnogi CELAVI, gyda BBC Radio Cymru yn disgrifio’r band fel y peth mwyaf swnllyd i ddod o Ogledd Cymru!

Gyda dros filiwn o ffrydiau yn rhyngwladol, a chydnabyddiaeth gan rai o’r rhestrau chwarae golygyddol mwyaf yn eu maes, mae CELAVI yn arwain y ffordd gyda’u sŵn awthentig!

Cadwch lygad ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol CELAVI am fwy o newyddion cyffrous yn fuan!

Am ragor o wybodaeth: musicbymeraki@gmail.com neu www.wearecelavi.com.