Awydd trio beic trydan?

Cyfle i logi beic trydan ym Mangor

gan Marian
IMG_8303-1

Beiciau sydd ar gael yn adeilad Pwll Nofio Bangor

Draw yn Byw’n Iach Bangor yn adeilad y Pwll Nofio mae cyfle i roi tro ar feic trydan. Yn ogystal â llogi yn unigol mae modd i chi hefyd deithio fel grŵp a threfnu hyfforddwr cymwys i’ch arwain.

Os nad ydych chi am fynd ar feic, mae nifer o gyfleon eraill i gadw’n heini yng Nghanolfan Byw’n Iach Bangor. Yn ogystal â’r pwll nofio gyda 4 bwrdd plymio, mae dwy ystafell ffitrwydd a dau faes pêl-droed 5-bob-ochr gyda 3G AstroTurf.