Mwy o arian i atal llifogydd yn Hirael

Bydd yn achub cannoedd o dai

Siân Gwenllian
gan Siân Gwenllian
dgffdg-1

Mae Hirael wedi dioddef sawl gwaith o achos effaith lifogydd

Mae cyhoeddiad wedi’i wneud gan Lywodraeth Cymru y bydd rhagor o arian yn cael ei roi tuag at gynlluniau atal llifogydd yng Nghymru.

Cafodd y cyhoeddiad ei wneud gan y Llywodraeth fel rhan o’u Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru.

O fewn y Rhaglen Rheoli Perygl ar gyfer Llifogydd ac Erydu Arfordirol 2023 i 2024 a gyhoeddwyd yn ddiweddar, mae £342,087 wedi ei glustnodi i Gynllun Amddiffyn rhag Llifogydd Hirael.

Yn ogystal â’r cyllid ar gyfer y rhan hon o Fangor sydd wedi wynebu llifogydd ers dros ganrif, mae buddsoddiad o £1,554,197 wedi’i gyhoeddi yng Ngwynedd yn ehangach.

Rydw i fel Aelod Dynodedig Plaid Cymru yn y Cytundeb Cydweithio â Llywodraeth Cymru wedi bod yn rhan o’r trafodaethau fu’n arwain at y cyhoeddiad hwn.

Yn amlach na pheidio, pobol gyffredin sydd wedi talu’r pris am newid hinsawdd, ac mae’n hollbwysig ein bod ni’n lleddfu’r effeithiau ar fywydau pobol.

Dyna pam fy mod i’n falch iawn bod buddsoddiad o £214m wedi’i neilltuo i’n hamddiffyn rhag llifogydd ledled Cymru, o ganlyniad i Gytundeb Cydweithio Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.

Ar sawl pwynt yn ei hanes mae Hirael wedi dioddef o achos effaith lifogydd. Er bod gwaith wedi’i wneud i fynd i’r afael â gorlifo o Afon Adda, mae’n debyg y bydd cynnydd yn lefel y môr ac effaith hynny ar gymunedau arfordirol yn dod i’r amlwg dros y degawdau nesaf.

Mae’n ddyletswydd ar lywodraeth i amddiffyn ei phobl rhag effeithiau newid hinsawdd a llifogydd, ac rwy’n falch bod 4 prosiect arall wedi derbyn buddsoddiad o fewn fy etholaeth, yn y Groeslon, Dyffryn Gwyrfai, Dyffryn Ogwen ac yn Waunfawr.

Unwaith y bydd y gwaith wedi’i gwblhau, bydd 198 o gartrefi yn Hirael yn unig yn elwa o’r buddsoddiad.

Dyma enghraifft arall o newid go iawn, hirdymor sydd wedi’i sicrhau drwy gydweithio adeiladol rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru.