Annog darpar feddygon i astudio ym Mangor

Mae mis ar ôl i wneud cais

Siân Gwenllian
gan Siân Gwenllian
Sian-Ysbyty-Gwynedd-2-Ebrill-2021

Siân Gwenllian yn Ysbyty Gwynedd.

Mae darpar fyfyrwyr meddygaeth wedi cael eu hannog i “fod yn rhan o hanes” a bod ymhlith y garfan gyntaf i wneud cais i astudio ym Mangor.

Mae Siân Gwenllian AS, sydd wedi gwneud yr ymgyrch am Ysgol Feddygol ym Mangor yn ganolog i’w chyfnod fel Aelod o’r Senedd dros Arfon, wedi annog myfyrwyr i wneud cais, wrth i’r dyddiadau cau agosáu.

Ar hyn o bryd mae Ysgol Feddygaeth Bangor yn gartref i 77 o fyfyrwyr meddygol Prifysgol Caerdydd, cyfuniad o raddedigion o Gymru a myfyrwyr meddygol sy’n trosglwyddo i Fangor ar ôl cwblhau eu hastudiaethau Blwyddyn 1 yng Nghaerdydd. Ym mis Medi 2024 bydd yr ysgol yn croesawu 60 o fyfyrwyr yn uniongyrchol o gyrsiau Lefel A.

A’r wythnos hon, mae Siân Gwenllian wedi annog darpar fyfyrwyr i wneud cais cyn y dyddiad cau ym mis Hydref:

“Yn ddiweddar, cefais y fraint o ymweld â’r ysgol i ddysgu am gynlluniau arfaethedig ar gyfer Ysgol Feddygol newydd sbon ym Mangor.

“Mae disgwyl y bydd cyfanswm o 670 o fyfyrwyr yn astudio yn yr ysgol erbyn 2033. Dwi’n siŵr y bydd yr ysgol yn drobwynt yn hanes y ddinas ac i wasanaethau iechyd yn lleol.

“Dwi rŵan yn gobeithio y bydd ysgolion a cholegau chweched dosbarth lleol yn achub ar y cyfle i annog eu myfyrwyr i ’styried gyrfa mewn meddygaeth, ac i ’styried gwneud hynny ym Mangor.

“Mae’r cyfleoedd sy’n codi o gael Ysgol Feddygol ym Mangor yn niferus. Ar lefel gymunedol, bydd myfyrwyr yn cael eu lleoli mewn ysbytai a meddygfeydd lleol, sy’n arwydd o fuddsoddiad pwysig yn ein cymunedau.

“Yn ogystal â hynny, bydd Ysgol Feddygol yng Ngwynedd yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr ennill gwerthfawrogiad o’r heriau unigryw sy’n wynebu gweithwyr iechyd yng nghefn gwlad, a gall yr ysgol hefyd fod yn ganolbwynt ar gyfer datblygiad gofal iechyd trwy gyfrwng y Gymraeg.

“Ar ôl blynyddoedd o ymgyrchu, mae’n braf iawn gweld ffrwyth ein llafur, gyda chamau sylweddol yn cael eu cymryd i sicrhau bod meddygon yn aros yng Nghymru.

“Mi hoffwn annog darpar feddygon i fod yn rhan o hanes a gwneud cais am le i astudio yn ein Hysgol Feddygol newydd sbon.”

Bydd darpar fyfyrwyr meddygaeth yn gwybod bod yn rhaid gwneud cais i astudio’r cwrs bron i flwyddyn ymlaen llaw. Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais i gyrsiau meddygaeth sy’n dechrau ym mis Medi 2024 yw 15 Hydref 2023.

Ychwanegod Siân:

“Dwi’n dymuno pob lwc i bob ymgeisydd, ac edrychaf ymlaen at groesawu myfyrwyr o’r fro leol yn ogystal ag o rannau eraill o Gymru i astudio meddygaeth ym Mangor.”