Angen gwirfoddolwyr ar gyfer Gŵyl Haf Bangor

Dydd Sadwrn Awst 19eg

gan Marian
bangor

Mae Gŵyl Haf Bangor yn digwydd ddydd Sadwrn yma Awst 19eg ac mae galwad, funud olaf, i holi am wirfoddolwyr sy’n siarad Cymraeg neu yn dysgu, a fyddai’n medru helpu rhwng 11yb – a 11yh.

  • Mae angen cymorth penodol o gwmpas Neuadd y Penrhyn (ger safle’r Bysiau). Mae adloniant yn digwydd yno ac angen gofalu am y rhai ifanc fydd yno.
  • Mae eisiau cymorth clirio ac ail agor o gwmpas y Stryd Fawr a’r cloc fel bod modd ail agor y stryd fawr am 5yp.

Dewch i fwynhau’r digwyddiad, ac os oes awr neu hanner awr i sbario gyda chi i helpu cysylltwch â neges@menteriaithbangor.cymru