Radio Ysbyty Gwynedd yn ennill efydd mewn gwobrau radio cenedlaethol!

Yr ail wobr i’r orsaf radio ysbyty ennill eleni

Sarah Wynn Griffiths
gan Sarah Wynn Griffiths

Radio Ysbyty Gwynedd – Gwobrau Radio Cenedlaethol 2022, Bedford

Radio Ysbyty Gwynedd – Gwobrau Radio Cenedlaethol 2022, Bedford

Mae gorsaf radio ysbyty lleol y flwyddyn 2022 Radio Ysbyty Gwynedd wedi ennill y wobr efydd yng Ngwobrau blynyddol Radio Cymunedol cenedlaethol.

Cyrhaeddodd yr orsaf y 5 uchaf ar y rhestr fer, am y drydedd flwyddyn yn olynol, a chwtogwyd i lawr o fwy na 400 o geisiadau gan orsafoedd o bob cornel o’r DU.

Enillodd Radio Ysbyty Gwynedd, a enwyd yn ddiweddar yn ‘Orsaf Radio Ysbyty’r Flwyddyn 2022’ y DU gan y Gymdeithas Ddarlledu Ysbytai, y wobr efydd yn y categori ‘Gorsaf Ddigidol neu RSL y Flwyddyn 2022’ am eu gwaith yn gwasanaethu cleifion Ysbyty Gwynedd ym Mangor a’r gymuned ehangach.

Cafodd yr enillwyr eu datgelu mewn seremoni fawreddog yn Bedford nos Sadwrn.

Dywedodd Kevin Williams, Cadeirydd: “Rydyn ni i gyd mor hapus i ennill y wobr efydd ar gyfer ‘Gorsaf Ddigidol y Flwyddyn 2022’! Mae derbyn y gydnabyddiaeth genedlaethol hon am y drydedd flwyddyn yn olynol yn gyflawniad gwych ond eleni, mae bod yn y tri uchaf yn y DU yn arbennig iawn! Rydym yn datblygu’n barhaus fel gorsaf gyda hyfforddiant rheolaidd ac yn datblygu ein hamserlen raglennu. Rydym yn recriwtio llawer o gyflwynwyr gwirfoddol newydd i’n gorsaf yn ogystal ag wynebau enwog gan gynnwys Iona ac Andy a Mici Plwm. Mae ennill ‘Gorsaf Radio Ysbyty’r Flwyddyn 2022’ yn ddiweddar gan y Gymdeithas Ddarlledu Ysbytai eleni a’r wobr efydd hon gan y Gwobrau Radio Cymunedol yn anrheg Nadolig cynnar. Mae’n amlwg pa mor broffesiynol ac apelgar yw ein cynnwys i gleifion Ysbyty Gwynedd a’n cymuned ehangach”.

Dywedodd Martin Steers, Cadeirydd y Gwobrau: “Mae hi wedi bod yn flwyddyn wych arall i Radio Cymunedol ledled y DU, gan ddifyrru, hysbysu ac ymgysylltu â chymunedau lleol, sef gwir ddiben gorsafoedd radio lleol. Mae wedi bod yn her fawr i’n beirniaid o bob rhan o’r diwydiant gan fod ansawdd y ceisiadau yn well nag erioed, sy’n brawf gwirioneddol i bopeth y mae gorsafoedd Radio Cymunedol yn ei wneud yn eu hardaloedd.”

Mae Radio Ysbyty Gwynedd wedi bod darlledu ers 1976 gan ddathlu 45 mlynedd llynedd.

Gall cleifion yn Ysbyty Gwynedd wrando ar Radio Ysbyty Gwynedd ar sianel 1 ar eu clustffonau yn yr ysbyty. Gall ein cymuned ehangach wrando ar-lein: www.radioysbytygwynedd.com ac ar Ap Radio Ysbyty Gwynedd.