Cynghrair “Ardal Fit Lock Gogledd Orllewin”
CPD Y Felinheli 2 Tref Dinbych 2
Mawrth 19, 2022
Gyda Dinbych yn drydydd yn y tabl ac efo siawns am ennill y teitl, roedd cipio pwynt yn eu herbyn yn ymdrech arwrol gan hogia Felin
Daeth ail gôl Felin yn eiliadau olaf y gêm, gyda chwaraewyr Dinbych yn honni fod Rhys “Archie” Parry yn camsefyll. Efallai fod rhai o gefnogwyr Felin yn meddwl yr un fath, ond roedd y llimanwr yn hollol gadarn ei farn ei bod hi’n gôl ddilys.
Ac o ystyried fod y tîm cartref wedi taro’r bar neu’r postyn ddim llai na chwe gwaith yn ystod y gêm, roedd Felin yn llawn haeddu chydig bach o lwc. Roedd dwy o’r rheini yn anlwcus iawn. Cafodd ergyd sbectaciwlar Iwan Bonc yn yr hanner cyntaf ei harbed yr un mor sbectaciwlar gan y golgeidwad, yn ei tharo hi yn erbyn y bar. A cafodd Archie shot wych yn ratlo’r postyn yn yr ail hanner.
Iwan Edwards sgoriodd y gyntaf i roi Felin ar y blaen, gyda’r ergyd yn taro’r bar, croesi’r llinell, cyn bownsio allan o’r gôl. Ond nid oedd amheuaeth ei bod wedi croesi. Ond daeth Dinbych yn ol yn gryf ac yn sgorio dwy gol o fewn deg munud, i fynd 1-2 ar y blaen.
Ond ar ol rhoi pwysau aruthrol ar amddiffyn yr ymwelwyr, daeth gôl Archie a phwynt gwerthfawr i Felin. Yn dilyn storm Eunice canol Chwefror, chwaraeodd Felin bedair gêm heb golli, dwy fuddugoliaeth (Brickfield a Llai) a dwy gyfartal (Brymbo a Dinbych). Ac mae hyn wedi gadael y clwb mewn sefyllfa ddigon iach, ac efo pob siawns o gael tymor arall yng Nghynghrair Ardal Gogledd Orllewin.
Oddicartref yn Llandudno dydd Sadwrn, ar ol gêm fawr Cymru yn erbyn Awstria nos Iau.