Dod i nabod Simon Ager

Mae pobl ddiddorol yn byw ym Mangor a’r Felin. Pobl glên, ddawnus a chreadigol. Dowch i nabod un ohonyn nhw!

gan Daniela Schlick

Ieithydd o fri a cherddor dawnus ydy Simon Ager sy’n dod o Sir Gaerhirfryn yn wreiddiol ac yn byw ym Mangor ers 2008. Mae ganddo radd meistr mewn ieithyddiaeth ac yn ymddiddori mewn ieithoedd o bobman yn y byd. Mae Simon yn siarad Cymraeg a Gwyddeleg yn rhugl ac yn gallu siarad 12 o ieithoedd eraill yn ddigon da i gael sgwrs ynddyn. As iŵ dw.

Yn naturiol fel ‘omniglot’ ei hun mae Simon yn rhedeg gwefan o’r enw Omniglot ers 1998 lle mae o’n rhannu gwybodaeth am ieithoedd ac yn helpu pobl i’w dysgu. Mae’n disgrifio’r wefan fel gwyddoniadur systemau ysgrifennu ac ieithoedd.

Ac mae mwy o ddawn i’w chael. Mae Simon hefyd yn berson cerddorol iawn. Mae’n canu’r piano, y delyn (unrhes hyd yn hyn), y gitâr, y mandolin, y cavaquinho / cafacîniw (offeryn llinynnol bach o Bortiwgal) a llawer mwy o offerynnau. Ers 2017 mae Simon yn ysgrifennu cân newydd bob mis. Mae’r mwyafrif ohonyn nhw yn Saesneg, ac mae rhai ohonyn nhw yn ieithoedd eraill, fel y Gymraeg a Ffrangeg, neu yn ddwyieithog, neu hyd yn oed yn amlieithog. Ond beth sy’n ei sbarduno i ysgrifennu cân?

“Dw i jesd yn gweld, clywed neu ddarllen pethau. Ac weithiau maen nhw’n dod yn gân newydd. Neu,  dw i’n meddwl am y pwnc a’r teitl yn gyntaf a meddwl wedyn pa alaw fyddai’n siwtio.” medd Simon.

A dyma 2 gân i chi gael blas.

Fel ieithydd sy’ gan ffrindiau ar draws y byd clywodd Simon stori gan ffrind o’r Iseldiroedd sy’n dysgu Cymraeg ar ap Duolingo. Os dach chi’n dysgu iaith trwy’r ap dach chi siŵr o fod yn gyfarwydd bod yr un set o eiriau a brawddegau yn cael eu hail-adrodd a bod y brawddegau weithiau ychydig yn … wel, anarferol. Anfonodd ffrind Simon llawer o frawddegau o’r ap ato fo ac roedden nhw i gyd yn trafod pannas Owen. Rhaid bod pannas yn anarferol yn yr Iseldiroedd ond yn amlwg yn cael eu cysylltu â’r Gymraeg. Wel, dyna sbardun i gân “Pannas Owen”. https://soundcloud.com/simon-ager/pannasowen

Mae’r ffrind bellach wedi ymweld â Chymry ac wedi dod o hyd i bannas mewn archfarchnad ym Mangor!

Cân arall yn ymwneud â’r iaith Gymraeg ydy “Ffaldiral”. Sylwodd Simon fod ‘ffaldiral’ mewn llawer o ganeuon gwerin ac roedd o eisiau ysgrifennu rhywbeth tebyg. Ac fel ieithydd o fri rhaid oedd cynnwys elfen ieithyddol arall, sef ystyr a defnydd amrywiol y gair ‘canu’ ei hun. Byddwch chi’n synnu mewn faint o ffyrdd gwahanol mae’r gair yn cael ei ddefnyddio yn y Gymraeg. Tybed fasech chi wedi eu hadnabod i gyd? Rhowch gynnig arni! https://soundcloud.com/simon-ager/ffaldiral

Dyma ddiwedd taith gerddorol am y tro. Byddwch yn barod am fwy! Ac os dach chi isio cyfarfod Simon a chanu efo fo, cerwch i’r sesiwn werin yn y Glôb! Mae ymlaen bob yn ail nos Fawrth.