Dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched gydag ystadegau “calonogol”

Mae’r ffigurau’n seiliedig ar Etholiadau Cyngor Gwynedd 2022

Siân Gwenllian
gan Siân Gwenllian
Untitled-design-14-2

Elin Walker-Jones, cynghorydd sir ward Glyder ym Mangor

Mae cynghorwyr benywaidd yn Arfon wedi dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched trwy rannu ystadegau sy’n dangos “symudiad pendant i’r cyfeiriad cywir.”

Mae’r ystadegau wedi cael eu hamlygu gan gynghorwyr benywaidd yn ardal Arfon yng Ngwynedd. Yn ôl Elin Walker-Jones, cadeirydd Plaid Cymru yn Arfon a chynghorydd sir ward Glyder ym Mangor:

“Mae ystadegau calonogol wedi dod i’r amlwg, a pha well ffordd o ddathlu nag ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod?

“Mae’r ffigyrau, sy’n seiliedig ar Etholiadau Cyngor Gwynedd 2022 a gynhaliwyd lai na blwyddyn yn ôl, yn dangos symudiad pendant i’r cyfeiriad cywir o ran cydraddoldeb rhywedd yng Ngwynedd.

“Cynyddodd cyfran y cynghorwyr ar draws Gwynedd sy’n ferched 13% yn etholiadau mis Mai.

“Yn Arfon, roedd y ffigyrau hyd yn oed yn fwy trawiadol, gyda chynnydd o 17% yn y gyfran o’r cynghorwyr sy’n ferched.

“Mae ystadegau penodol ar gyfer grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd hefyd yn ddiddorol, ac yn adlewyrchu ymgyrch benodol gan aelodau’r blaid ar draws Gwynedd i ddenu mwy o ymgeiswyr sy’n ferched.

“Cynyddodd canran cynghorwyr y grŵp sy’n ferched 16% y llynedd. Gwelodd y ganran yn Arfon gynnydd tebyg o 14%.

“O ran ymgeiswyr Plaid Cymru ar draws y sir, fe gynyddodd y canran hwnnw 17%, ac yn Arfon cododd cyfran yr ymgeiswyr sy’n ferched 21%!

“Afraid dweud bod yna dipyn o ffordd i fynd eto gan mai dim ond rŵan mae ffigwr Gwynedd mwy neu lai’n gyfartal â’r ffigwr cyfartalog cenedlaethol o 35% o gynghorwyr sy’n ferched, sy’n cynrychioli cynnydd yng Ngwynedd o 12% ers 2017.

“Mae mwy o waith i’w wneud i sicrhau cydraddoldeb hirdymor, go iawn ar bob lefel o lywodraethu, ond mae’r ystadegau hyn yn rhoi rheswm inni ddathlu.”

Mae Elin Walker-Jones hefyd yn Aelod Cabinet dros Blant a Phobl Ifanc, ac mae’n gobeithio y gall fod yn ysbrydoliaeth i ferched ifanc yng Ngwynedd:

“Mae bod yn fodel rôl cadarnhaol i fenywod yn hanfodol i genedlaethau’r dyfodol er mwyn sicrhau bod cyfartaledd rhyw yn norm.

“Ond mae angen i sefydliadau newid hefyd er mwyn creu amodau sy’n annog, yn hytrach nag yn rhwystro cyfartaledd.”

Yn ôl Siân Gwenllian, sydd ei hun yn gyn-gynghorydd sir yn ogystal â bod y ferch gyntaf i gynrychioli etholaeth Arfon:

“Nid drwy hap a damwain y digwyddodd y cynnydd sy’n amlwg yn yr ystadegau hyn. Cynhaliwyd ymgyrch bwrpasol yn lleol i ddenu mwy o ymgeiswyr sy’n ferched.

“Mae’n hanfodol bod Diwrnod Rhyngwladol y Merched yn fwy na sbloets o sloganau diystyr.

“Wrth ddathlu’r ystadegau hyn, rydym yn gobeithio dangos bod gweithredu gydag ewyllys wleidyddol yn medru arwain at newid go iawn ar lawr gwlad.

“Hoffwn ddiolch i bob un ferch a fu’n ymgeisydd yn etholiadau’r llynedd.

“Oni bai bod lleisiau merched yn amlwg ar bob lefel o lywodraeth, yna ni fydd ein blaenoriaethau yn cael sylw.”