Gwynedd Ddigidol

Cymorth ddigidol yn rhad ac am ddim.

gan Llion Elis
4418

Cefnogaeth Ddigidol am Ddim

Mae Citizens Online wedi cael arian i redeg prosiect yng Ngwynedd gyda’r nod o helpu cymaint o bobl a phosib i fynd ar-lein – #Gwynedd Ddigidol.

Yn rhan o’r gefnogaeth yma mae arian i roi’r offer angenrheidiol i unigolion / cymdeithasau lleol, offer megis Gliniaduron, Tabledi, Ffonau Clyfar, Mi-Fi a data/SIM.

Yn ogystal â’r offer rydym yn cynnig hyfforddiant digidol wythnosol i bobl sydd ei angen. Gall hyn fod yn gymorth un i un, neu mewn grwpiau. Mae ein pencampwyr digidol yn fwy na hapus i ddod i’ch canolfannau, llyfrgelloedd, caffis lleol i weithio gyda chi.

Cymerwch fantais o’r prosiect hwn gan ei fod yn dod i ben ddiwedd Mehefin. Os ydych angen cymorth neu yn adnabod rhywun fuasai’n elwa o’r cymorth cysylltwch â ni drwy e-bost – digitalgwynedd@citizensonline.org.uk neu drwy ffonio’r llinell rad ac am ddim – 0808 196 5883.

Edrychwn ymlaen at glywed gennych.