Gobeithio am fuddugoliaeth i Gymru

Emyr Evans sy’n gweithio yng Nghwpan y Byd

gan Marian

Ems wrth ei waith yn un o stadiymau’r gystadleuaeth

Ems o flaen ystafell reoli’r darlledwyr

Yn Qatar i weithio mae Emyr Evans o’r Felinheli, a oedd yn teimlo ei bod yn fraint ac yn anrhydedd cael teithio i Gwpan y Byd fel peiriannydd sain.

Gweithio yn y BBC ym Mangor y bydd Ems fel arfer a chyn teithio allan i Qatar roedd ‘na waith paratoi manwl, lot o waith papur a darparu’r holl offer sain angenrheidiol.

“Yna ar ôl cyrraedd Qatar ar Dachwedd 16eg roedd ’na lot o waith cael pethau’n barod, nôl fy ‘accreditation’, chwilio am lefydd i ddarlledu a gwneud yn siŵr ein bod yn gallu cysylltu i ddarlledu nôl i Gymru.”

Yn ôl Ems mae wedi bod yn brysur iawn arno o’r eiliad iddo gyrraedd y wlad.

“Dwi wedi gwneud darllediadau byw i Radio Cymru, Radio Wales, 5Live, BBC Glasgow, BBC Ulster a Radio 4. Mae pawb nôl adre isio clywed lleisiau Cymry yn Qatar. Mae’r profiad o lusgo’r offer sain o’r gwesty i’r cae ac i’r pwynt sylwebu yn ddiddorol a heriol ar adegau, ac mae angen digon o offer gan ein bod yn darlledu mewn dwy iaith. Ond eto mae’r profiad yn anhygoel ac mae pawb yma mor gyfeillgar ac mor barod i helpu mewn unrhyw ffordd”

O ran y gêm ddydd Mawrth – sut mae Ems yn teimlo?

“Roedd pawb yn teimlo’n isel ar ôl y golled yn erbyn Iran ond mae ‘na dal obaith! Os bydd y gêm rhwng UDA v Iran yn gyfartal. A ni’n ennill o un gôl … mae’n bosib! Mae angen bod bach yn bositif, a chroesi bob dim i’r tîm.”

Efallai y bydd Ems adre yn Y Felinheli cyn diwedd yr wythnos, ond pe bai Cymru’n cyrraedd rownd yr 16 olaf fe fydd yn aros yn Qatar!