O Gadair i Gyfrol!

Lansiad y bardd ifanc Osian Owen yn y Felinheli.

gan kayley sydenham
IMG-6317

Bardd yn wreiddiol o’r Felinheli yw Osian Owen. Cafodd lwyddiant yn Eisteddfod yr Urdd 2018 wrth ennill y Gadair, ac enillodd hefyd prif wobr farddoniaeth Eisteddfod T yn 2020. Fo oedd Bardd y Mis ar Radio Cymru, fis Awst ac mae erbyn hyn wedi cyhoeddi ei gyfrol gyntaf o gerddi o’r enw ‘Y Lôn Hir Iawn’.

Dyma yw’r nawfed gyfrol yng nghyfres boblogaidd Barddas sy’n rhoi i feirdd newydd lais a chyfle i gyhoeddi eu gwaith.

Dywedodd Osian: “Mae ’sgwennu beirdd ifanc yn newid lot mewn cyfnod byr o amser. Mae’n gyfnod o ddatblygu a dod o hyd i lais.”

“Be dwi’n trïo’i ddeud ydi bod ’na awydd yma i gael fy ngherddi cynnar ar gof a chadw, neu fel arall, fasa nhw ddim yn gweld golau dydd.”

Ychwanegodd: “Dwi’n meddwl mai dyna ydi hanfod y gyfres yma gan Barddas mewn gwirionedd, mae’n gyfle i feirdd ifanc fwrw ati i gyhoeddi heb ormod o bwysau. Mi fedra i rhoi’r cerddi yma, sy’n crisialu rhyw gyfnod yn fy mywyd, i’w gwely rŵan.”

Lansiad yn y Felinheli 
Os ydych awydd noson ysgafn, anffurfiol mae croeso i bawb nos Wener yma yn Y Shed, Felinheli. Am hanner awr wedi 7, mi fydd Osian Owen yno yng nghwmni ffrindiau, a’r artist Elis Derby yn cynnal noson llawn barddoni a chân.

“Noson ysgafn, anffurfiol fydd hi. Dwi isio iddi fod yn noson sy’n agored i bobol sy’n mwynhau’r math yma o beth ond hefyd i’r bobol sydd ddim yn arfer dod i lansiadau. Bydd ambell un o fy ffrindiau’n darllen eu cerddi, ac mi fydd yr artist Elis Derby, sydd hefyd yn dod o’r Felinheli – ac a oedd yn yr Ysgol Feithrin a’r Ysgol Gynradd efo fi.”

Mi fydd hefyd yn gyfle i brynu copi o’r gyfrol, ac efallai gyfle i gal llofnod bach!