CPD Y Felinheli 2 Saltney 0
Cynghrair “Lockstock” Ardal Gogledd Orllewin
Sadwrn, Chwefror 5ed
Wedi chwarae dwy gêm yn Ionawr, ac yn anlwcus i golli’r ddwy, roedd gwir angen tri-phwynt yn erbyn y clwb o ochrau Gaer. Nid oedd pethau yn edrych yn dda pan gollwyd Llion, oedd yn chwarae yng nganol yr amddiffyn, ar ol 3 munud gyda phroblem hamstring. Daeth Rhodri Dafydd i fewn yn ei le. Efallai yr ymwelwyr oedd yn edrych berycla yn y cychwyn ond buan iawn ddechraeodd Felin reoli petha, gyda’r amddiffyn yn chwarae yn dda, a nifer o gyfleoedd yn cael eu creu yn yr hanner cyntaf.
Roedd hi’n gêm gystadleuol, ond rhoddodd y dyfarnwr benalti i Saltney ar ol 13 munud o’r ail hanner, i fawr siom y dyrfa. Ond arbedodd Guto y gic yn wych, ac o’r foment honno, aeth Felin o nerth i nerth. Yn dilyn cyfnod o bwysau cyson gan Felin, llwyddodd Saltney i glirio cic gornel am gic gornel arall. Ac o honno, peniodd Gruff Felin ar y blaen yn eithaf acrobatic.
Roedd 25 munud yn weddill o’r gêm, ond roedd Felin yn dal i ymosod ac yn chwilio i gau y gêm. Wedi 77 munud, a Carwyn yn dangos penderfyniad, fel y gwnaeth drwy’r gêm, tynnwyd yr ymosodwr i lawr yn y bocs a rhoddodd y dyfarnwr benalti i Felin. A claddodd Gruff y bel yng ngefn y rhwyd o’r smotyn, 2-0 i Felin.
Dangosodd y reff ail gerdyn melyn i un o amddiffynwyr Saltney gyda ryw 10 munud yn weddill, ac efallai ddyla Felin wedi manteisio chwarae yn erbyn deg dyn. Bu y ddau frawd Cain, Jack a Ryan, wedyn chydig yn anlwcus mewn digwyddiadau ddigon tebyg, gyda’r bel yn sboncio ar y cae anwastad wrth iddynt gael cyfle i sgorio. Ond roedd y triphwyntyn y bag, a Felin bellach yn 11eg yn y tabl.
Mae’r fideo cyntaf yn dangos peniad Gruff, a’r ail a thrydydd yn dangos Carwyn yn ennill cic o’r smotyn a Gruff yn sgorio.