Cynghrair Lockstock Ardal Gogledd Orllewin
Llanrwst Unedig 2 CPD Y Felinheli 0
Perfformiad cryf iawn gan Felin, yn enwedig yn yr hanner cyntaf. Ond aethant ar ei hol hi 0-1 ar ol 24 munud yn erbyn tim oedd yn beryg iawn yn gwrthymosod. Cafwyd sawl cyfle, ac anlwcus oedd Felin i gyrraedd hanner amser heb ddim i ddangos am yr ymdrech.
Aeth hi yn 2-0 rhyw 10 munud i’r ail hanner, gan adael tasg enfawr i Felin ddod yn ol i’r gêm. Ond er creu ambell gyfle, roedd amddiffyn Llanrwst yn gadarn. Dangoswyd y cerdyn coch i Ifan Dafydd yn yr eiliadau olaf ar ol iddo dynnu ymosodwr y tim cartref i lawr, ac ildio cic gosb o ymyl y cwrt cosbi. Methodd Llanrwst fanteisio a gorffenodd y gêm 2-0.
Daeth dau newydd-ddyfodiad ar y cae am y munudau olaf am eu debiw i’r clwb, Adam Hughes (sydd wedi chwarae i Felin sawl blwyddyn yn ol) a Jack Cain. Roedd y ddau wedi arwyddo yn y ffenest drosglwyddo, sydd newydd agor am y mis, a bydd Felin yn falch o gael y ddau i gryfhau y sgwad. Da hefyd oedd cael Caio Hughes yn ol yn dilyn cyfnod yn yr Unol Daleithau.
Gweler y clipiau fideo: Caio, Gavin, a Rhys “Archie” i gyd yn anlwcus
Bydd Llandudno Albion yn ymweld â Gae Seilo dydd Sadwrn nesaf (22in), gyda’r cic gyntaf am 2:00