Dyfodol i’r byd llenyddol mewn print?

Mewn oes lle mae mwy a mwy o bobl yn troi at y sgrin, efo’r gallu i wneud, a phrynu unrhywbeth y dymunwn ar flaenau ein bysedd – pa obaith sydd i’r byd llenyddol mewn print?

gan kayley sydenham
3812C189-6186-4C52-A8E0

Pamffled Llio Maddocks ‘Stwff ma Hogia ’di ddeud wrtha fi.’ Mae Llio’n rhannu ei cherddi ar Instagram (@llioelain)

AF4A2626-ECDE-4C8E-8E24

Casgliad o lyfrau Cymraeg

Y mae’r pandemig COVID-19 wedi profi’n her, ac yn sicr wedi newid y ffordd rydym yn treulio ein hamser, gweithio, a siopa erbyn hyn.

Nid yw’n gyfrinach, mae heriau wedi codi ym myd llenyddiaeth, i fusnesau a siopau lleol yng Nghymru ers y cyfnod, efo rhai cwmnïau, gweisg ac unigolion yn parhau i wynebu’r gost.

Efo’r siopau ar gau, swyddfeydd post ond yn gweithio am oriau penodol, a miloedd o staff i ffwrdd o’r gwaith, try ein byd i’n dyfeisiau.

Cyfnod llawn ansicrwydd i awduron, gweisg a siopau annibynnol llyfrau oedd hi, wrth i nifer ohonom droi at gwmnïau megis ‘Amazon’ er mwyn prynu llyfrau ynlle. Parhaodd ‘Amazon’ i ddarparu gwasanaeth yn ystod y cyfnod, efo parseli yn cyrraedd ein stepen drws o fewn diwrnodau. Ond, gadawodd hyn awduron a’r siopau llyfrau lleol mewn sefyllfa gwaeth nag erioed.

Be felly oedd effaith Amazon ar awduron, siopau llyfrau a gweisg Cymraeg?

A yw hi’n bryd inni edrych tua’r dyfodol, gan gymryd i ystyriaeth yr hyn y gallwn ni eu gwneud er mwyn achub ein traddodiad gwerthfawr?

Dywedodd Garmon Gruffudd ar ran Y Lolfa: “Fel gwasg rydym yn annog pobl i osgoi Amazon ac i brynu llyfrau drwy siopau Cymraeg annibynnol.

Os am gefnogi awduron a beirdd dylid prynu llyfrau print o siopau llyfrau annibynnol a mynychu digwyddiadau.”

Rôl y llyfrgelloedd i fod yn ‘bont gysylltiol bwysig iawn rhwng yr awdur a’r farchnad’

Nododd Nia Gruffydd, Rheolwr Llyfrgelloedd Gwynedd: “Mae yna filoedd o lyfrau yn cael eu cyhoeddi bob blwyddyn. Mae Llyfrgelloedd – sydd hefyd yn brynwr llyfrau – yn gallu gweithredu fel man lle mae darllenwyr yn gallu dod o hyd i lyfrau ac awduron newydd. Mae Llyfrgelloedd felly yn bont cysylltiol bwysig iawn rhwng yr awdur a’r farchnad.”

Man i ddarganfod awduron o’r newydd yw’r llyfrgell, a hynny thrwy lyfrau a’i gwaith, a chynnal digwyddiadau. Tyfa cynulleidfa’r awdur diolch i lyfrgelloedd, a’u cynnig mynediad eang ac am ddim i’r cyhoedd.

Yn barn Yr Athro Jerry Hunter, Awdur a darlithydd yn Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor: “Dywedaf fod llyfrgelloedd yn hynod bwysig fel un ffordd arall o ledaenu gwaith awdur. Daw ychydig o arian i awduron yn sgil pob copi o lyfr y mae llyfregelloedd yn ei brynu, ond dywedwn mai lledaenu gwaith a’i wneud ar gael i gylchoedd eang o bobl yw cyfraniad llyfrgelloedd yng nghyd-destun gyrfa awdur, nid helpu’r awdur i wneud elw.”

Effaith y byd digidol

Wrth i’r byd droi yn ddigidol, daw’r angen yn fwy i awduron ddatblygu, a rhannu eu gwaith ar lein. Gwêl hynny yn enwedig efo beirdd ar Instagram, a bellach y mae’r hashnod #Instagerdd neu #instagerddi yn un boblogaidd erbyn hyn.

Beth yw’r ffordd ymlaen?

Esboniodd Deborah Wood ar ran Y Cyngor Llyfrau: “Y ffordd orau i gefnogi’r holl ddiwydiant yw prynu llyfrau o’r siop lyfrau, gan fod cadw siop ar agor yn golygu cynulleidfa i’r dyfodol i’r awduron.”

Dywed Nia Gruffydd, Rheolwr Llyfrgelloedd Gwynedd: “Yng Nghymru, mae’r diwydiant cyhoeddi yn derbyn nawdd (dim ond yn y byd cyhoeddi byd eang iaith Saesneg mae pethau’n wahanol), felly rhaid sicrhau fod y grantiau a’r cymhorthdal sydd ar gael yn ddigonol i awduron allu sgwennu neu wneud bywoliaeth o sgwennu.  Rhaid cael awduron i sgwennu yn y lle cyntaf!”

“Os yw rhywun wedi mwynhau llyfr gan awdur – yna mae’n bwysig i awdur gael yr anogaeth i gario mlaen. Felly dim jest cefnogaeth ariannol sydd ei angen ond cynyddu hyder a mentora! Mae angen mwy o sylw yn gyffredinol i lyfrau ac awduron o Gymru yn y cyfryngau.”

Does dim incwm o brynu llyfrau yn ail-law yn mynd i gyhoeddwyr nac awduron, ac felly prynu’r llyfr o’r newydd boed o’ch siop llyfrau lleol, yn rhan o lawnsiad neu’n uniongyrchol gan yr awdur yw’r ffordd gorau o gefnogi.

Awgrymodd Yr Athro Angharad Price, awdur ‘Caersaint’ ac ‘O! tyn y gorchudd’: “Mae’n llawer gwell os ydi darllenwyr yn prynu llyfrau – yn enwedig o siopau llyfrau lleol. Mae hynny’n well i’r awduron, y cyhoeddwyr Cymraeg ac wrth gwrs i economi ein trefi lleol.”