Diwrnod braf ar y maes!

Ail ddiwrnod Eisteddfod yr Urdd yn Sir Ddinbych

gan Catrin Elain Roberts

Braf oedd croesawu’r heulwen i’r maes heddiw ’ma yn Ninbych a chael cadw’r cotiau glaw a’r ymbaréls.

Da iawn i Mari Swyn Williams o Ysgol Tryfan am gystadlu yn y gystadleuaeth CogUrdd Blwyddyn 7, 8 a 9, a da iawn hefyd i Llew Isac Morris o Ysgol Y Felinheli am gystadlu yng nghystadleuaeth Unawd Pres Blwyddyn 6 ac iau. 

Pob lwc i bawb sy’n cystadlu ’fory.