CPD Y Felinheli yn cael eu pwynt cyntaf yn 2024

Gêm gyfartal yn Llanrwst

gan Gwilym John
gemau Felin ers Rhagfyr

Ar ol cyfnod llwm iawn ar ol y Nadolig- diffyg gemau oherwydd y tywydd, a wedtn colli dwy gêm oddicartref mis Ionawr, llwyddodd Felin i gipio pwynt yn Llanrwst, gêm gyfartal 1-1 gyda Calum Macdonald yn rhwydo. Canlyniad ddigon teg, er efallai buasai Felin wedi medru ennill gyda tipyn o lwc.

Colli 0-1 oedd hi yr wythnos gynt mewn gwynt cryf yng Nghaergybi, ac efallai ychydig yn anlwcus i beidio cael gêm gyfartal. A cholli yn drwm 1-4 ar gae “pob-tywydd” Airbus yn Sir Fflint bethefnos cyn hynny yn erbyn Penarlag (Hawarden Rangers), gêm lle oedd Felin yn disgwyl ennill, ond perfformiad gwael yr ail hanner yn angrymu diffyg ffitrwydd yn dilyn cyfnod heb gemau oherwydd y tywydd.

Mae Felin bedwerydd o waelod y tabl yng. ghynghrair ‘Ardal LockStock” Gogledd Orllewin ar hyn o bryd, ond gyda gemau mewn llaw. Ond mae’n rhaid ennill rheini toes! Byw mewn gobaith, gwella wneith petha.