Ar drywydd i gyrraedd miliwn?

Menter Iaith Bangor yn hybu a hyrwyddo defnydd y Gymraeg yn y gymuned

gan kayley sydenham
image002-1Llun gan Fenter Iaith Bangor
IMG-6018

Brwydr barhaus

Ni fu erioed gyfnod mwy cyffrous i fynd ati i ddysgu Cymraeg, â Llywodraeth Cymru efo’r weledigaeth i filiwn o bobl i allu siarad, defnyddio a mwynhau’r iaith erbyn y flwyddyn 2050.

Ymestynna’r iaith Gymraeg yn ôl i’r chweched ganrif, ond mae’r frwydr dros e’i pharhad yn frwydr barhaus.

Brwydr i’w gwneud yn Iaith ein dinasoedd a chefn gwlad ac i’w gweld yn fwy na chyfrwng – fel symbol o barhad traddodiad.

‘O bydded i’r Hen iaith barhau’

Diolch i Fenter Iaith Bangor, mae modd camu’n hyderus i’r dyfodol.

Pob prynhawn Mawrth, cei’r cyfle i fynychu prynhawn ‘Panad a moider’ sef cyfle i sgwrsio dros baned trwy’r Gymraeg. Man i gwrdd, i sgwrsio ac ymarfer mewn lle hamddenol, ac mae croeso i bawb boed yn ddysgwyr, siaradwyr rhugl, neu siaradwyr a hoffai gryfhau eu sgiliau ymhellach.

Mae’n fodd o gyflwyno geirfa syml a newydd, ac i dderbyn cyngor heb feirniadaeth, ac i adolygu a defnyddio’r hyn rydych wedi dysgu’n barod.

Dywed Mei Owen sy’n rhedeg y sesiynau bod dysgwyr sydd yn mynychu’n rheolaidd yn gwella ac yn ei gweld hi’n haws i sgwrsio ac i ddysgu geirfa ac ymadroddion.

Meddai un o’r dysgwyr am eu profiad o fynychu’r prynhawn: “Dw i’n teimlo’n fwy hyderus yn y gweithle erbyn hyn ac eisiau siarad mwy.”

Cynhelir y sesiwn pob prynhawn Mawrth 2-4, yn Gwreiddiau Gwyllt/Wild Origins yng Nghanolfan Deiniol, Bangor. Croeso i bawb!

Os hoffech wybod mwy, cysylltwch â neges@menteriaithbangor.com neu dros ffôn 01248370050