Cyhoeddi adroddiad blynyddol i bobol Arfon

Mae’r materion sy’n cael eu trafod yn amrywio o’r argyfwng costau byw i’r gwasanaeth iechyd lleol

gan Osian Owen

Mae Siân Gwenllian AS a Hywel Williams AS yn cynrychioli etholaeth Arfon yn y Senedd a San Steffan, ac ar ddiwedd 2022 maent yn cyhoeddi adroddiad blynyddol o’u gwaith.

Bydd y llyfryn dwyieithog yn cael ei ddosbarthu yn sgil cyhoeddiad Aelod Seneddol Plaid Cymru Arfon, Hywel Williams, y bydd yn camu o’r neilltu yn yr Etholiad Cyffredinol nesaf ar ôl 21 mlynedd fel AS. Bydd yn parhau i gynrychioli’r ardal tan etholiad nesaf San Steffan, yn gweithio ar ran trigolion lleol ac yn delio â gwaith achos.

Yr adroddiad blynyddol yw rhifyn diweddaraf Llais Arfon, cyhoeddiad sy’n crynhoi materion cenedlaethol y mae’r ASau’n ymwneud â nhw, yn ogystal â materion sy’n lleol i’r etholaeth.

Mae Siân Gwenllian yn cynrychioli etholaeth Arfon, sy’n ymestyn o Abergwyngregyn i Nebo:

“Mae cadw mewn cysylltiad agos ag etholwyr yn rhan hanfodol o’n gwaith ac rydym yn cynnal cymorthfeydd wyneb-yn-wyneb yn rheolaidd ar draws yr etholaeth.

“Llanberis, Bethel, y Felinheli, Bangor, Dyffryn Ogwen, Dyffryn Nantlle, Bontnewydd, Rhosgadfan, Rhiwlas, y Groeslon, Caernarfon. Dyma rai o’r cymunedau rydym wedi ymweld â nhw i gynnal cymorthfeydd yn ystod yr wythnosau diwethaf.

“Yn ystod y pandemig rhennais ddau adroddiad â’r holl etholaeth drwy’r post, yn 2021 ac ar ddechrau 2022 yn canolbwyntio ar feysydd polisi sy’n berthnasol i’r Senedd, o iechyd i addysg, yn ogystal â’m gwaith lleol.

“Ond erbyn hyn, mae cyfeirio etholwyr at gymorth yn ystod argyfwng costau byw yn flaenoriaeth i’n swyddfeydd.

“Rydym hefyd wedi llunio llyfryn, sydd ar gael ar-lein ac ar bapur, i godi ymwybyddiaeth o’r gefnogaeth sydd ar gael i bobl mewn cyfnod mor heriol.”

Dylai’r sawl sy’n dymuno cael mynediad at gopi electronig o’r llyfryn hwnnw ddilyn y ddolen hon.

Mae Llais Arfon yn cael ei gyhoeddi yng nghanol yr argyfwng costau byw, ond cynghorir etholwyr i fwrw golwg ar lyfryn pwrpasol ar yr argyfwng Costau Byw sydd wedi ei lunio gan yr ASau i dderbyn gwybodaeth gyfredol sy’n cael ei diweddaru’n rheolaidd am y cymorth sydd ar gael.

Dywedodd Hywel Williams AS, sy’n cynrychioli’r un etholaeth yn senedd San Steffan:

“Mae rhoi gwybod i’n hetholwyr am ein gwaith yn hanfodol.

“Gyda’r argyfwng costau byw yn gwaethygu, a phobl yn poeni fwyfwy am eu biliau ynni – mae ein hetholwyr yn haeddu gwybod beth rydym yn ei wneud i ddwyn y rhai sydd mewn grym i gyfrif a’r materion yr ydym yn ymgyrchu arnynt yng Nghaerdydd a San Steffan. .

“Fel AS lleol, rwy’n ymgysylltu â thrigolion drwy’r amser, ac mae’r adroddiad diweddaraf hwn yn fy helpu i roi diweddariad o’m gwaith yn lleol yn Arfon ac yn San Steffan.

“Mae pob copi yn cael ei ddosbarthu gan ein gwirfoddolwyr.”

Dylai’r sawl sy’n dymuno derbyn copi o Llais Arfon gysylltu â swyddfa’r ASasu ar sian.gwenllian@senedd.cymru, hywel.williams.mp@parliament.uk neu drwy ffonio 01286 672076.