Campweithiau Celf ’Steddfod yr Urdd

Buddugwyr celf, dylunio a thechnoleg yr ardal yn yr Eisteddfod

gan Catrin Elain Roberts

Bu i nifer o blant a phobl ifanc ardal Bangor a’r Felinheli serennu yng nghystadlaethau celf, dylunio a thechnoleg yr Eisteddfod ‘leni.

Llongyfarchiadau mawr iawn i Bréiffne Ellis (Ysgol Friars), Anest Bryn (Ysgol Tryfan), Beca Williams (Ysgol Y Felinheli), Lleucu Bryn (Cylch Bangor/Ogwen), Elin Harmer (Ysgol Friars), Tamsin Williams (Ysgol Friars), Gracie Wilson (Ysgol Friars) a ‘Genod 3 a 4 Felinheli’ (Ysgol Y Felinheli).

Wrth ymweld â’r Eisteddfod yr wythnos hon, cofiwch fynd i’r babell gelf, dylunio a thechnoleg i weld y gwaith creadigol gwych sy’n cael ei arddangos yno.