Brickfield Rangers 0 Felin 1
Chwefror 26, 2022
Ar ol 3 munud yn unig, llwyddodd Dylan Jones gael ei ben i groesiad o gic cornel a rhoi Felin ar y blaen 1-0, dechreuad gwych mewn gêm tyngedfennol i obeithion Felin o aros yng nghyngrair “Lock Stock Ardal Gogledd Orllewin”. Roedd Felin dau bwynt o flaen rhain yn cychwyn y gêm, gyda’r ddau glwb yn brwydro i aros uwch ben y tri safle gwaelod.
Efallai mai Felin gafodd y cyfleon gorau trwy gydol y gêm, er fod y tim o Wrecsam wedi dod yn agos sawl tro. Un yn nodedig wrth i Rhodri Dafydd gadw’i “cwl” a chlirio oddi ar y llinell. Daeth Rhys “Archie” Parry yn agos cwpwl o weithiau (gweler y fideos uchod), a Iw Bonc hefyd.
Ond er nad oedd y munudau olaf wedi gwneud llawer o les i nerfau cefnogwyr Felin, roedd y fuddugoliaeth yn haeddiannol.
Mae Felin yn dal yn yr 11ed safle yn y tabl, a ddim ond 3 phwynt y tu ol i Nantlle Vale, fydd yn ymweld â Chae Seilo cyn bo hir.
Trip arall i ochrau Wrecsam Sadwrn nesaf, i Frymbo, sydd hefyd yn is na Felin yn y gynghrair. Felly fydd hon hefyd yn gêm hynod o bwysig fydd angen ei hennill.