Blog Byw: Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych

Y diweddariadau o’r maes

gan Catrin Elain Roberts

Y diweddariadau o’r maes ar ddydd Sadwrn yr Eisteddfod.

19:16

Llongyfarchiadau mawr i Aelwyd JMJ a’u harweinydd, Celt John, am ddod yn 3ydd yn y gystadleuaeth Côr S.A.T.B. 14-25 oed (gyda dros 40 o aelodau). 

18:23

32C781BA-B81A-4D4B-8D7C

Llongyfarchiadau mawr i Aelwyd JMJ am ddod yn fuddugol yn y gystadleuaeth Parti Cerdd Dant 14-25 oed.

17:58

Aelwyd JMJ yn canu ‘Sion a Sian’ yn wefreiddiol iawn! Cystadleuaeth olaf Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022 – Côr S.A.T.B. 14-25 oed (gyda dros 40 o aelodau).

17:37

Côr Aelwyd JMJ yn perfformio ‘Un Ydym Ni’ yn y gystadleuaeth Côr S.A.T.B. 14 – 25 oed (gyda 40 neu lai o aelodau). Swynol dros ben!

17:20

Llongyfarchiadau mawr i Cai Fôn Davies, cyn-ddisgybl Ysgol Tryfan a chyn-fyfyriwr Prifysgol Bangor, am dderbyn y wobr 1af yn y gystadleuaeth Llefaru Unigol 19-25 oed.

17:17

Llongyfarchiadau mawr i Gwenno Morgan, cyn ddisgybl Ysgol Tryfan, am dderbyn y wobr 1af yn chwarae’r biano yn y gystadleuaeth Unawd Offerynnol 19-25 oed.

16:44

Perfformiad cryf iawn o ‘Moliannwn’ gan Gôr Meibion Aelwyd JMJ yn y Pafiliwn Gwyrdd yng nghystadleuaeth Côr Meibion Tri Llais 14-25 oed (Aelwyd). 

15:53

Côr Merched Aelwyd JMJ yn perfformio ‘Dyro Wên i Mi’ yn hyfryd yn y gystadleuaeth Côr Merched S.S.A. 14-25 oed (Aelwyd).

15:10

Da iawn i Heloise Handby o Ysgol Friars am gystadlu yn y gystadleuaeth Band / Artist Unigol Blwyddyn 7 – 13. 

15:00

Llongyfarchiadau mawr i Cai Fôn Davies am dderbyn yr 2il wobr yn y gystadleuaeth Cyflwyniad Dramatig Unigol 19-25 oed yn ogystal â’r 2il wobr am y gystadleuaeth Unawd allan o Sioe Gerdd 19-25.