Band o Fangor ar BBC Radio 6 Music!

Mae CELAVI, band metal, diwydiannol, electro, roc o Fangor wedi cael eu chwarae ar BBC Radio 6 Music yn ddiweddar!

Sarah Wynn Griffiths
gan Sarah Wynn Griffiths

Ar ôl llwyddiant diweddaraf eu EP ‘NOVUS’ yn cyrraedd dros filiwn o ffrydiau’n rhyngwladol, mae CELAVI wedi rhyddhau eu cân newydd enfawr ‘TEMPEST‘ sy’n disgrifio’r storm berffaith wrth i ni golli rheolaeth a cheisio darganfod ein llwybr eto. Roedd y band wrth eu boddau clywed ‘TEMPEST’ ar BBC Radio 6 Music ar y rhaglen ‘The BBC Introducing Mixtape’!

Dywedodd Gwion o CELAVI “Mae clywed ein cerddoriaeth yn cael ei chwarae ar y Radio yn deimlad gwych, ac mae’n gymaint o fraint wedi cael ein cân newydd wedi ei chwarae ar yr orsaf enfawr ac eiconig BBC Radio 6 Music. Ar hyn o bryd, mae un o’n caneuon oddi ar ein EP ‘NOVUS’ yn rhif 14 yn Mexico, yn siart Amazon Daily Hard Rock Metal. Da ni mor ddiolchgar, diolch o waelod calon am y gefnogaeth”.

CELAVI yw Gwion a Sarah o Fangor. Mae sŵn eu cerddoriaeth yn cael ei gyrru gan y gitârs sy’n gwrthdaro’n ddramatig efo llais meddal Sarah sy’n gwneud iddynt sefyll allan o’r dorf.

Mae CELAVI yn ôl yn y stiwdio mis mai yn dilyn cefnogaeth gan Gorwelion 2022 ac yn recordio traciau newydd gyda’r cynhyrchydd roc a metal enwog, Romesh Dodangoda.

Yn dilyn gigs yng ngŵyl ymylol Abertawe a thaith Gorwelion Cymru 2022, mae CELAVI yn barod i ddod a’r sŵn i nifer o wyliau, gan ddod a’u band llawn gyda nhw ar y daith, a mwy o wyliau i’w cyhoeddi yn fuan!

25.06 – Goths on a Field – Northwood

08.07  – Rock the Castle – Castell Fflint

09.07 – Goth City 6 – Leeds

23.07 – Philfest 2022 – Bryngwran

03.09 – Well Inn Music Festival – Treffynnon

Ydych chi’n barod am rywbeth gwahanol?

Gallwch wrando eto ar CELAVI ar ‘The BBC Introducing Mixtape’ ar BBC Radio 6 Music yma: http://www.bbc.co.uk/programmes/m0017kmk

Am ragor o wybodaeth:

Gwefan | Facebook | Twitter | Instagram | Spotify