Bwrlwm yn y Pafiliwn

Côr Encôr yn cipio ail yn y gystadleuaeth

gan kayley sydenham
B6A31706-53AB-477D-A0DFLlun gan S4C

Mae’r Eisteddfod yn ôl wedi dwy flynedd hir yn aros, ac mae’r Pafiliwn yn llawn dop unwaith eto. Mae’r llwyfan llawn bwrlwm, yn enfys i gyd, yn tanio â thalentau a chystadleuaeth.

Fe fues i i wylio cystadlaethau’r côr i rai 60 oed a throsodd ar lwyfan y Pafiliwn, brynhawn Fawrth. Un o bedwar côr oedd yn cystadlu oedd ‘Encôr’, o ardal Sir Fôn, Porthaethwy a’r cylch. Roedd y côr yn erbyn côr Nefi Blws o Gaerdydd, Bytholwyrdd o ardal Llanbed, a chôr Hen Nodiant o Null.

Cefais gyfle i siarad a holi un o aelodau’r côr wedi iddynt berfformio, sef Stephen Landson, o Fangor.

Nad oedd Stephen yn berson cerddorol iawn tra oedd yn ifanc, ac wedi pigo cerddoriaeth lan yn hwyrach ymlaen yn ei fywyd. Wedi peidio perfformio ar faes Eisteddfod wedi rhai blynyddoedd, dwedodd roedd hi’n sialens ac yn heriol.

Ymunodd Stephen â’r Côr pan ffurfiwyd, nôl yn 2017 ac mae o wedi bod yn aelod o’r dechrau.

Efo dros 60 o aelodau, a hwynt o dan arweiniad Mari Lloyd Pritchard, dychmygaf y gall fod yn her i gadw trefn ar bethau pob hyn a hyn! Ond, yn ôl Stephen y mae’r grŵp yn dod ymlaen yn dda iawn, ac yr oedd nifer ohonynt yn adnabod ei gilydd cyn ffurfiwyd y côr. Maent yn ymarfer yn aml, ac yn cynnal gweithgareddau ac yn cwrdd ambell i waith i gael hoe o’r canu. Canu a chyfeillgarwch sydd i ddod â’r grŵp yma at ei gilydd.

Ac mae pleser genna i ddweud llongyfarchiadau enfawr iddynt wrth ddod yn ail yn y gystadleuaeth, a phob dymuniadau iddynt at y dyfodol â’r Eisteddfodau sydd i ddod.