gan
Gwilym John
Cychwyn boddhaol i Felin yn y gynghrair newydd, yn llwyddo cael gêm gyfartal 1-1 yn Rhostyllen.
Sgoriodd Gavin i Felin ar ol 30 eiliad yn unig! Siwr o fod gôl gyntaf yn hanes Cynghrair Ardal Cymru.
Colli dau cefnwr canol, Ifan Em a Tryst, yn gynnar yn yr ail hanner gan adael tasg enfawr i ddal gafael ar y pwyntiau. Ond gyda hanner y tim yn chwarae allan o’u safle, bu amddiffyn arwrol. Ac er i’r tîm cartref lwyddo i gael un yn ol, llwyddodd Felin i gipio pwynt gwerthfawr.