Yn dilyn cyfres o gemau cyfeillgar, mae peldroed “o ddifri” wedi cychwyn ers ail Sadwrn Gorffennaf. Gemau cwpan y Gymdeithas Bel Droed oedd y rhain, sef Cwpan Cymru a Thlws “Amatur” Cymru, oedd wedi eu trefnu fel bod gemau yn gymharol lleol.
Cwpan Cymru ydi’r un bwysicaf, yn enwedig gan fod arian i’w gael am ennill gêm, peth pwysig iawn i glwb bach fel CPD Y Felinheli. Ennillodd Felin 4-0 yn erbyn tim eithaf cryf o Fynydd Llandegai, hon yn y rownd rhagbrofol gyntaf. A pethefnos wedyn, Waunfawr oedd ein gwesteion yn Seilo yn yr ail rownd rhagbrofol, clwb sydd dau haen ym mhyramid peldroed Cymru o dan Felin. Felly y disgwyl oedd i Felin ennill yn gymharol hawdd, ond nid felly oedd hi. Dwy gôl yn yr ail hanner yn ennill y gem 2-0 mewn gêm galed iawn.
Roedd gwylio eiddgar ar y “draw” i’r rownd gyntaf, oedd yn cael ei darlledu yn fyw ar y cyfryngau, a chydig o siom oedd darganfod fod rhaid trafeilio i Saltney, ar gyrion tref Caer. Mae rhain yn yr un gynghrair a Felin, yn y “Tier 3” fondigrybwyll, felly fydd hi ddim yn hawdd ychwanegu i’r celc ariannol a symud ymlaen i’r ail rownd. Mae’r gêm yma ar Awst 14eg os ydi rhywun ffansi.
Nid oes pres i’w gael yn y gwpan arall, ond ar ol curo Llanystumdwy 4-0, ein gwobr yw gêm gartref yn erbyn y mawrion Porthmadog, sydd yn debygol o ddenu torf sylweddol. Gobeithio! Mae Port hefyd yn yr un gynghrair a Felin eleni, clwb sydd i fod ym mhrif gynghrair Cymru fuasa lawer yn dweud. Bydd hon ar y 7ed o Awst
Y gynghrair newydd…..? Anodd gwybod beth i ddisgwyl i ddweud y gwir. Bydd Felin yn teithio i Rostyllen ar gyrion Wrecsam fory (dwi’n ysgrifennu hwn dydd Gwener Gorffennaf 30). Pa mor gryf fydd y clybiau eraill? Ydi’r clybiau eraill yn yr “Ardal Gogledd Orllewin” yn talu arian mawr i’w chwaraewyr? Tydi Felin ddim yn talu dim i’r chwaraewyr, mae nhw i gyd yn falch o gael chwarae i’r clwb, dim angen arian i’w hysgogi. Yn bendant fydd y safon tipyn uwch na beth mae Felin wedi arfer, ond mae pawb yn y clwb yn barod amdani ac yn edrych ymlaen.
Yn ogystal i llwyth o glybiau o ochrau’r Gogledd Ddwyrain, mae clybiau lleol fel Nantlle Vale, Porthmadog, Blaenau Ffestiniog, Llanuwchllyn, a Llanrwst yn cadw cwmni i CPD Y Felinheli. Edrychwn ymlaen i’r “darbis” lleol, gan obeithio fydd tyrfaoedd da yn dilyn y clybiau yma i gyd.
Ond! Mae angen i’r Gymdeithas Bel Droed ail feddwl ynglyn ag enw y gynghrair toes. Gogledd Orllewin, Saltney, Wrecsam….? Nid yn unig hyn, ond mae clybiau o ochrau Aberystwyth yn yr “Ardal Gogledd Ddwyrain”. Cym on…..
A cwyn arall mawr iawn, nid gan Felin ond gan bawb. Ni fydd modd cael defnyddio ystafelloedd newid oherwydd y Covid. Golyga hyn fod pymtheg neu fwy o hogiau chwyslyd a budr yn gorfod teithio am awr a hanner yn ol i Felin ar yr A55. Mae hynny yn hollol nyts tydi?