![Picture-1](https://360.scdn8.secure.raxcdn.com/ased/sites/16/2021/09/Picture-1-640x396.jpg?1b)
Llun Manon Dafydd, wedi ei ddefnyddio gyda chaniatâd
Yr wythnos hon, dethlir yr Wythnos Werdd Fawr, wythnos i ddathlu gweithredu ar newid hinsawdd a natur yn y DU. Mae’r wythnos wedi cael ei disgrifio fel cyfle i ddathlu sut mae cymunedau yn gweithredu i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd a gwarchod mannau gwyrdd, gan annog eraill i gymryd rhan.
Mae dathliadau’n cael eu cynnal yng Nghanolfan Affricanaidd a Charibïaidd Bangor ar y Stryd Fawr, ac mae’r gweithgareddau ymhlith dros 4,000 o ddigwyddiadau ledled y DU fel rhan o’r Wythnos Werdd Fawr rhwng 18 – 26 Medi 2021.
Cynhaliwyd lansiad dathliadau Bangor yng Nghanolfan Affricanaidd a Charibïaidd Bangor ddydd Sadwrn.
Dilynwch dudalen Facebook Cymdeithas Affrica Gogledd Cymru i gael rhagor o wybodaeth am y gweithgareddau.