Dadorchuddio plac i anrhydeddu swffragydd a chynghorydd ym Mangor

Roedd Charlotte Price White o flaen ei hamser

gan Osian Owen
Picture-1

Yr wythnos ddiwethaf dadorchuddiwyd plac i anrhydeddu bywyd Charlotte Price White, ymgyrchydd blaenllaw ym mudiad Swffragiaid Gogledd Cymru.

Yn ôl AS Arfon, mae bywyd y swffragydd o Fangor yn ein hatgoffa bod angen “newid go iawn” i sicrhau cydraddoldeb.

Cynhaliwyd y seremoni fechan yn unol â rheoliadau Covid-19, ac fe’i mynychwyd gan Jane Hutt AS, Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Llywodraeth Cymru a Siân Gwenllian, Aelod o’r Senedd dros Arfon.

Er iddi gael ei geni yn Briggart, yr Alban, yn yr 1890au daeth i hyfforddi fel athrawes wyddoniaeth ym Mhrifysgol Bangor

Yn ymateb i’r dadorchuddio, dywedodd Siân Gwenllian bod ganddi “ddyled bersonol” i Charlotte Price White;

 

“Roeddwn yn falch iawn o fod yn rhan o’r digwyddiad i ddathlu bywyd Charlotte Price White, swffragydd amlwg a gerddodd i Lundain yn ystod Pererindod y Swffragiaid yn 1913.

 

“Rwy’n teimlo’n ddyledus iddi ar lefel bersonol, yn ogystal ag i gannoedd o ymgyrchwyr eraill a frwydrodd mor galed dros hawliau menywod. Roeddwn i hefyd yn teimlo braidd yn drist. Mae llawer iawn wedi cael ei gyflawni, ond mae anghydraddoldeb yn parhau.

 

“Dim ond tua chwarter o gynghorwyr sir Cymru sy’n fenywod; fi oedd yr unig ddynes ar Gabinet Cyngor Gwynedd am gyfnod; a fi oedd y ddynes gyntaf i gynrychioli etholaeth Arfon. Pan fo menywod yn absennol o’n bywyd cyhoeddus, mae lleisiau a blaenoriaethau menywod yn absennol hefyd.

 

“Hyd yn oed yn y Senedd, rydw i mewn lleiafrif. O’r 60 aelod, mae 26 ohonynt yn ferched a 34 ohonynt yn ddynion. O’r 13 Aelod Plaid Cymru yn y Senedd, mae 8 yn ddynion, a 5 yn ferched.”

 

Mae’r AS, sy’n cynrychioli’r ardal yn y Senedd wedi sôn am ei “anrhydedd” o fod yn rhan o linach Price White, gan mai hi oedd y fenyw gyntaf i gynrychioli etholaeth Arfon. Yn yr un modd, Charlotte Price White oedd un o’r menywod cyntaf i gael ei hethol i Gyngor Sir Caernarfon ym 1926.

 

Yn ôl Siân Gwenllian AS mae’r rhwystrau y mae menywod yn eu hwynebu mewn bywyd cyhoeddus yn parhau, ac mae wedi galw am “newid go iawn.”

 

“I newid y sefyllfa, rwy’n credu’n gryf bod yn rhaid i ni gael system etholiadol statudol ar waith sy’n ei gwneud yn orfodol i bleidiau gwleidyddol ddewis niferoedd cyfartal o ddynion a menywod (yn ogystal ag adlewyrchu amrywiaeth cymdeithas Cymru.)

 

“Byddaf yn parhau i alw am y newid hwn yn ystod y Senedd newydd. Mae cyfle unigryw i wneud hyn yng Nghymru, am y tro cyntaf.

 

“Wrth imi fynd ati i ddadlau’r achos dros gwotâu gorfodol yn etholiadau Cymru – ar lefel y Senedd a llywodraeth leol, byddaf yn cofio am Charlotte Price White ac ymgyrchwyr hawliau menywod eraill.

 

“Edrychaf ymlaen at ddathliadau pellach sy’n cael eu cynnal i’w hanrhydeddu yn ystod yr hydref.”

 

Daeth Price White yn aelod o Sefydliad y Merched pan gafodd ei sefydlu yn y DU ym 1915 gyda changen yn Llanfairpwll.

 

Roedd yn chwarae rhan ganolog yng Nghynghrair Ryngwladol Menywod Gogledd Cymru dros Heddwch a Rhyddid a’r ‘Pererindod Heddwch, a gynhaliwyd ym 1926.

 

Yn ogystal â derbyn plac porffor i’w anrhydeddu, cafodd Price White ei chynnwys ar restr 100 o Fenywod Cymru Rhwydwaith Cydraddoldeb Merched, rhestr a luniwyd i ddathlu cyfraniad menywod y presennol a’r gorffennol i fywyd Cymru.

1 sylw

Deiniol Jones
Deiniol Jones

Mi fyddai’n ddiddorol gwybod ble ym Mangor mae ‘Rockleigh’

Mae’r sylwadau wedi cau.