Ganed yr arlunydd Pete Jones yn ardal Hirael ym Mangor, ac mae wedi awgrymu bod elfennau hunangofiannol yn perthyn i’w arddangosfa ddiweddaraf “Y Bae”, arddangosfa y mae’n ei galw’n “archwiliad o’r ardal y cefais fy magu ynddi.”
Mae ardal Hirael ym Mangor yn bodoli ar wahân i weddill Bangor fel ardal, yng ngeiriau Pete, a “siapiwyd gan y môr a’r llechi.” Arferai fod yn gasgliad bychan o dai, nes y dechreuodd y llongau llechi ddefnyddio’r porthladd. Ffrwydrodd y diwydiant adeiladu llongau yn y 19eg ganrif, ac yn fuan wedi hynny, adeiladwyd 12 stryd o dai fforddiadwy ar gyfer y gweithlu o gylch Stryd Ambrose.
Cawsai Hirael ei disgrifio fel cymuned “hunangynhwysol”, gyda siopau, tafarndai, cryddion, teilwriaid, a phobydd yn gwasanaethu gweithwyr a theuluoedd gweithwyr tair iard longau ar hyd y glannau.
Mae dylanwad Hirael yn pwyso’n drwm ar yr arlunydd lleol Pete Jones, ac mae’n mynegi’r dylanwad hwnnw yn ei arddangosfa ddiweddaraf ‘Y Bae’.
Dywed:
“Roedd ogla’r môr (a mwd yn ystod yr hafau poeth) yn gryf, ac yn ein hatgoffa o ba mor agos oeddan ni at y dyfnder.
“Ar lanw uchel, mae rhannau helaeth o Hirael yn is na lefel y môr ac yn wynebu bygythiad o lifogydd. Mae stôr o gyfeiriadau emosiynol a diwylliannol yn llywio’r gwaith. Mae atgofion o edrych allan i’r môr a’r gorwel yn amlwg yn y gwaith. Dwi wedi trio creu awyrgylch sy’n adlewyrchu fy nheimladau i tuag at yr Hirael a fu, a sydd bellach wedi diflannu. ”
Mewn cyfweliad diweddar ag Aled Hughes ar BBC Radio Cymru, disgrifiodd Pete y gweithiau fel “atgofion mewn lluniau” o “le sydd wedi newid cryn dipyn dros y blynyddoedd.”
Yn ddiweddar aeth Siân Gwenllian, sy’n cynrychioli’r ardal yn y Senedd, draw i’r arddangosfa:
“Er gwaetha’r ffaith bod Hirael wedi newid dros y blynyddoedd, mae’r ardal yn parhau i fod o bwysigrwydd hanesyddol enfawr. Ar un adeg roedd yn ganolfan o ddiwydiant morwrol ac roedd yn ganolog i waith y diwydiant llechi lleol.
“Straeon cymunedau fel Hirael sy’n bwysig eu cofio wrth i’r ardal gael ei dynodi’n safle treftadaeth y byd UNESCO.
“Yn weithwyr, a theuluoedd i weithwyr, y cymeriadau ydi asgwrn cefn llefydd fel Hirael, ac mae hynny’n amlwg yng ngwaith hiraethus Pete.
“Roedd darn yn y Liverpool Daily Post yn gofyn,‘Pwy allai beidio ag ateb galwad y môr o Hirael, ardal sydd a’i thraed yn nŵr y Fenai ac anadl Môr Iwerddon yn chwythu trwy’i strydoedd cul?’
“Mae’n amlwg bod Pete yn rhan o linach anrhydeddus o bobl Hirael sydd wedi ateb yr alwad honno.”
Ganwyd Pete Jones ym Mangor. Ar ôl astudio yn Ysgol Gelf Caer cwblhaodd radd mewn Celf Gain yng Ngholeg Celf a Dylunio Loughborough. Bu’n Nyrs Anabledd Dysgu am 30 mlynedd cyn dod yn arlunydd llawn amser yn 2016.
Bydd arddangosfa Y Bae yn Storiel Bangor rhwng 9 Hydref a 31 Rhagfyr.