Pwy sy’n cofio’r hen Gapel Bethania?

Mae lluniau wedi eu rhannu o’r hen gapel

gan Osian Owen
1Capel Bethania Y Felinheli
2

Ail-agor y Capel yn 1991

Mae lluniau wedi eu rhannu o Gapel Bethania, Y Felinheli, cyn gwaith adnewyddu a wnaed ar y capel yn y 1990au.

Agorwyd y capel ar ei newydd wedd ar 1 Tachwedd 1991 ar ôl gwaith adnewyddu gan Gyngor Bwrdeistref Arfon. Gwnaed y gwaith gan y Cyngor yn gydnabyddiaeth am y darn o dir wrth y capel a roddwyd i’w droi’n fflatiau henoed.

Mae’r llun uchod yn dangos y capel fel ag yr oedd cyn y gwaith, ond mae’r gwaith adnewyddu yn golygu bod y capel yn fwy amlbwrpas ac amlddefnydd.

Pa atgofion sydd gennych chi o’r capel?