Chwilio am Deian a Loli i lwyfannau Cymru

Chwilio am blant rhwng 11-14 oed i gymryd rhan Deian a Loli mewn drama lwyfan newydd.

Frân Wen
gan Frân Wen

Chwilio am Deian a Loli i lwyfannau Cymru

Chwilio am blant rhwng 11-14 oed i gymryd rhan Deian a Loli mewn drama lwyfan newydd

Mae Frân Wen yn chwilio am blant rhwng 11-14 oed i gymryd rhan Deian a Loli mewn drama lwyfan newydd, fydd yn teithio Cymru yn 2024.

Rydym yn annog ceisiadau gan unigolion niwroamrywiol, dall, byddar, anabl neu unigolion o’r Mwyafrif Bydeang, yn ogystal ag unigolion o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol ddifreintiedig.

Does dim rhaid cael unrhyw brofiad blaenorol o actio na pherfformio – dim ond brwdfrydedd a digonedd o egni! Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol.

Bydd ymarferion y sioe yn digwydd ym Mangor rhwng Mawrth ac Ebrill 2024 a’r daith ledled Cymru rhwng Ebrill a Mehefin 2024.

Mwy o fanylion: franwen.com/newyddion/chwilio-am-deian-a-loli-arbennig