Gwirfoddolwch yn y ’Steddfod!

Llai na mis i fynd!

Ar Goedd
gan Ar Goedd

Mae llai na mis i fynd tan y bydd Eisteddfod y Felinheli yn cael ei hatgyfodi, ac mae cyfle i bobl y pentra (a thu hwnt!) wirfoddoli ar ddiwrnod yr Eisteddfod.

Mae nifer ohonoch wedi cysylltu’n gofyn ‘sut fedra i helpu’r Eisteddfod?’, ac felly mae’r pwyllgor wedi creu’r ffurflen hon i roi eich enw i wirfoddoli ar 1 Chwefror 2025!

Fydd o ddim yn lot o waith – ac mae ’na wahanol ffyrdd y medrwch chi helpu (e.e. stiwardio ar y diwrnod, helpu i osod ar y nos Wenar, gwneud cacen ayyb.)

Felly llenwch y ffurflen heddiw, a diolch o flaen llaw!

Dweud eich dweud