Prifysgol Bangor a’r gymuned

Diweddariad ar ddatblygiadau’r Brifysgol o ddiddordeb ac o fudd i’r gymuned leol (Hydref 2022)

gan Iwan Williams

Prifysgol Bangor a’r gymuned

Mae wedi bod yn gyfnod prysur yn y Brifysgol, gyda myfyrwyr yn dechrau neu’n dychwelyd ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd. Ar ddechrau mis Hydref, lansiodd y Brifysgol ei strategaeth Cenhadaeth Ddinesig. Yn fras, mae’r strategaeth yn gosod allan sut mae’r Brifysgol yn gweithio gydag amryw o bartneriaid yn y gymuned ym Mangor a thu hwnt, ac yn amlinellu blaenoriaethau dros y blynyddoedd nesaf. Bwriad y tîm Cenhadaeth Ddinesig yw i adeiladau ar y cysylltiadau rhwng y Brifysgol a’r gymuned, ac mae rhagor o wybodaeth i’w weld yma: https://www.bangor.ac.uk/cy/cenhadaeth-ddinesig

 

Mae’r Brifysgol wedi sefydlu partneriaeth gyda’r Sefydliad Materion Cymreig er mwyn darparu cyfres o ddigwyddiadau rhithiol, wyneb yn wyneb neu hybrid, a fydd yn rhoi cyfle i’n cymuned i gyfrannu at y trafodaethau agenda polisi cyhoeddus mewn ystod o feysydd. Ar 6ed Hydref, yn yr ail o’r digwyddiadau yma, mynychodd dros chwe deg o bobl “Grym twristiaeth: Gwerthfawrogi ymwelwyr tra’n cynnal ein cymunedau”, a drafododd y cynnig treth twristiaeth, ail dai, a sut i greu a chynnal twristiaeth a chymunedau cynaliadwy yng ngogledd orllewin Cymru. Hefyd ar ddechrau mis Hydref, cyfarfu Bwrdd Cymunedol y Brifysgol. Mae’r Bwrdd yn tynnu partneriaid o wahanol cefndiroedd at eu gilydd i drafod materion strategol a sut i gryfhau’r cydweithio rhwng y Brifysgol a sefydliadau, cyrff statudol a grwpiau ym Mangor a’r gogledd orllewin.

 

Ar 18fed Hydref, lansiodd M-SParc ei gartref newydd ar Stryd Fawr Bangor. Yn rhan o’r brosiect ‘Ar y Lôn’, fe fydd y gofod newydd yn cynnig llefydd i bobl weithio, i dderbyn help a chefnogaeth busnes, i ysbrydoli plant a phobl ifanc ym meysydd gwyddoniaeth a thechnoleg, a rhoi mynediad am ddim i adnoddau Ffiws Makerspace er mwyn creu deunydd. Bydd M-SParc ar y Stryd Fawr am y chwe mis nesa, ac mae rhagor o wybodaeth i’w weld yma:

https://m-sparc.com/cy/ar-y-lon/

 

Wrth edrych ymlaen, fe fydd Gwirfoddoli Myfyrwyr Bangor yn dathlu 70 mlynedd o wirfoddoli ym Mangor ym mis Rhagfyr. Bydd y dathlu yn cynnwys parti te yn y Brifysgol ar 3ydd Rhagfyr, carreg filltir pwysig a chyfle i gydnabod gwaith gwirfoddoli y myfyrwyr ym Mangor a thu hwnt. Mae rhagor o wybodaeth i’w weld yma: https://www.bangor.ac.uk/cy/cymuned/gwirfoddoli

 

Cyfnod prysur a chyffrous rhwng pob dim, ac edrychwn ymlaen i’ch diweddaru yn rheolaidd ar ddatblygiadau perthnasol y Brifysgol i’r gymuned.

Iwan Williams, Uwch Swyddog y Genhadaeth Ddinesig, Prifysgol Bangor