Radio Ysbyty Gwynedd yn cefnogi Whizz Kidz

Rhaglen radio elusennol arbennig ar Radio Ysbyty Gwynedd

Sarah Wynn Griffiths
gan Sarah Wynn Griffiths
Radio Ysbyty Gwynedd - Rhaglen Elusennol Whizz Kidz

Mae Radio Ysbyty Gwynedd, elusen gofrestredig, yn falch o fod yn cefnogi Whizz Kidz ar eu noson elusennol arbennig ar y 28ain o Fehefin 2024.

Rhwng 8-9yh, bydd yna raglen Whizz Kidz gyda’r cyflwynwyr Yvonne Gallienne a Sarah Wynn Griffiths yn tynnu sylw at waith amhrisiadwy Whizz Kidz, gyda chyfweliadau arbennig gyda Sophie Dearman, Swyddog Cefnogi Gwirfoddolwyr, Gwasanaethau Pobl Ifanc ac Aaron Pleming, cyflwynydd Radio Ysbyty Gwynedd ac alumni Whizz Kidz.

Yn ystod y sioe elusennol werthfawr hon, bydd y cyflwynydd Aaron Pleming yn rhannu ei brofiadau ei hun am y gefnogaeth ffantastig mae o wedi derbyn gan Whizz Kidz.

Gall cleifion yn Ysbyty Gwynedd wrando ar Radio Ysbyty Gwynedd ar sianel 1 ar eu clustffonau yn yr ysbyty. Gall ein cymuned ehangach wrando ar-lein: www.radioysbytygwynedd.com, ar Ap Radio Ysbyty Gwynedd a hefyd ar Alexa.

Dywedodd Kevin Williams, Cadeirydd Radio Ysbyty Gwynedd: “Fel elusen ein hunain, rydym yn falch iawn o gefnogi Whizz Kidz. Rydym yn hapus i allu gweithio gyda’r elusen hon a chodi ymwybyddiaeth o’r gwasanaethau sydd ar gael i ddefnyddwyr ifanc cadeiriau olwyn. Mae’n mynd i fod yn rhaglen addysgiadol ac ysbrydoledig iawn. Os hoffai elusennau eraill gael sylw ar un o’n sioeau elusennol arbennig, anfonwch e-bost at radioysbytygwynedd@gmail.com. Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych”.

Dywedodd Aaron “Mae Whizz Kidz yn elusen anhygoel, fyddwn i ddim pwy ydw i heddiw oni bai am eu gwaith anhygoel, mae Whizz Kidz fel teulu mawr”.

Elusen ar gyfer defnyddwyr ifanc cadeiriau olwyn yw Whizz Kidz. Maent yn creu cyfleoedd i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn ifanc gael yr offer, y sgiliau a’r hyder i fynd ymhellach. Am ragor o wybodaeth, cliciwch yma.

Cafodd Radio Ysbyty Gwynedd ei enwi’n ‘Orsaf Radio Ysbyty’r Flwyddyn 2022’ y DU gan y Gymdeithas Darlledu Ysbytai ac enillodd hefyd y wobr ‘Efydd’ am ‘Orsaf Ddigidol y Flwyddyn’ yng Ngwobrau Radio Cymunedol 2022.

Mae’r orsaf yn mynd o nerth i nerth – yn gweithio ar raglenni elusennol arbennig i dynnu sylw at waith gwerthfawr elusennau lleol a chenedlaethol. Bu’r orsaf yn cefnogi nifer o ddarllediadau allanol yn cefnogi digwyddiadau gwych gan gynnwys Gŵyl Pier Garth Bangor 2024, Balchder Gogledd Cymru 2023, Relay For Life 2023 a Phenblwydd 75 y GIG.