Prifysgol Bangor a’r Gymuned

Diweddariad ar ddatblygiadau’r Brifysgol o ddiddordeb ac o fudd i’r gymuned leol (Rhagfyr 2024)

gan Iwan Williams

Bu’r wythnosau cyn y Nadolig yn gyfnod prysur yn y Brifysgol, gyda myfyrwyr yn parhau â’u hastudiaethau, cyfres o ddiwrnodau agored a llawer o weithgareddau a digwyddiadau yn ymwneud â staff, myfyrwyr a’r gymuned.

Daeth partneriaeth dair blynedd y Brifysgol gyda’r Sefydliad Materion Cymreig i ben ym mis Hydref. Cynhaliwyd “Tuag at ddyfodol cynaliadwy i ogledd Cymru a’i chymunedau” yn Pontio ar 3 Hydref a chafwyd presenoldeb da. Roedd y digwyddiad yn cynnwys Dr Ed Jones (Prifysgol Bangor), Meleri Davies (gynt o Bartneriaeth Ogwen), Nia Jones (Cwmni Frân Wen) a Sarah Schofield (Adra) fel siaradwyr, ac edrychodd ar sut y gallwn ni sicrhau lles cymunedau gogledd Cymru a’u cynaliadwyedd economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol-ddiwylliannol. Hoffai’r Brifysgol ddiolch i’r Sefydliad Materion Cymreig am bartneriaeth lwyddiannus a chyfres o ddigwyddiadau gwych dros y tair blynedd diwethaf. Cynhelir digwyddiadau tebyg gan y Brifysgol yn 2025 a thu hwnt.

Mae Cronfa Gymunedol y Brifysgol yn parhau. Mae gan staff tan ddechrau Ionawr i gyflwyno cynigion i atgyfnerthu neu roi hwb i berthnasau newydd â phartneriaid cymunedol. Ar 24 Medi, helpodd y Gronfa i gefnogi uwchgynhadledd gynaliadwyedd Yr Wyddfa. Hon oedd uwchgynhadledd gyntaf COPA1 Eryri, a daeth timau o blant o ysgolion uwchradd lleol ynghyd i ddatblygu projectau i fynd i’r afael â phlastigau a gwastraff plastig. Rhoddodd y digwyddiad gyfle i ddisgyblion ysgol weithio ochr yn ochr â hwyluswyr arbenigol i fireinio eu syniadau a’u cyflwyno gerbron panel o feirniaid.

Cynhaliwyd cyfarfod diweddaf y Bwrdd Cymunedol ar 7 Hydref. Cadeiriwyd y cyfarfod gan yr Athro Andrew Edwards, ac roedd y cyflwyniadau’n cynnwys trosolwg o daith y Myfyrwyr Rhyngwladol, diweddariad ar gynnydd cais Siarter Cydraddoldeb Hil y Brifysgol, a’r datblygiadau diweddaraf gydag Ysgol Feddygol Gogledd Cymru ers ei lansiad ffurfiol ar 3 Hydref. Derbyniwyd diweddariadau pellach gan Ganolfan Dysgu Morwrol Bangor, Cymdeithas Affrica Gogledd Cymru a Mantell Gwynedd.

Ar 27 Tachwedd, cafodd Clinig Cyngor Cyfreithiol Prifysgol Bangor ei lansio’n ffurfiol. Sefydlwyd y clinig yn haf 2024, ac mae’n darparu cyngor cyfreithiol am ddim i aelodau’r cyhoedd. Rhoddir yr holl gyngor gan fyfyrwyr y gyfraith sydd yn eu blwyddyn olaf, a hynny dan oruchwyliaeth cyfreithwyr cymwys. Daeth llawer i’r digwyddiad, a bydd y clinig yn ymgartrefu yn Nhŷ Cyfle, Stryd Fawr Bangor yn y Flwyddyn Newydd.

Mae’r Brifysgol yn parhau i weithio’n agos gyda Chyngor Dinas Bangor, ac mae paratoadau ar y gweill ar gyfer 2025 i ddathlu 1500 mlynedd ers sefydlu’r ddinas. Cefnogodd y Brifysgol hefyd y digwyddiad Cracer Nadolig yn Pontio ar 24 Tachwedd a’r project Prydau Poeth yn Neuadd Penrhyn (manylion pellach isod).

Mae Undeb Myfyrwyr Bangor yn parhau i weithio gyda’r Cyngor ar y project gwirfoddoli Prydau Poeth. Mae’r project, a gynhelir gan fyfyrwyr bob prynhawn Sadwrn yn Neuadd Penrhyn (Cyngor Dinas Bangor), yn cynnig bwyd cynnes, maethlon, i unrhyw un mewn angen yn ardal Bangor. Mae’r project yn trefnu pryd bwyd a dathliad Nadolig ar ddydd Sadwrn 21 Rhagfyr (3-6pm) yn Neuadd Penrhyn, gyda chefnogaeth staff y Brifysgol sy’n gwirfoddoli ar y diwrnod. Mae’r project yn cydnabod bod y Nadolig yn gyfnod heriol ac unig i lawer o bobl, ac mae’r gwirfoddolwyr yn edrych ymlaen at ddarparu bwyd blasus, cerddoriaeth, a chynnig cyfle i bawb ddod at ei gilydd i fwynhau.

Trefnwyd y Te Parti blynyddol ar 7 Rhagfyr gan y myfyrwyr sy’n arwain y fenter yn yr Hyb Gweithgareddau ar safle Ffriddoedd (12-4pm). Mae’r project yn parhau i roi cyfle i bobl hŷn Bangor fynd allan i gymdeithasu, ac mae’n helpu i leihau unigrwydd ac unigedd. Roedd y digwyddiad yn gyfle gwych i fyfyrwyr a defnyddwyr gwasanaeth ddathlu’r Nadolig a mwynhau bwyd ac adloniant gyda’i gilydd, wrth helpu i ddatblygu cymuned fwy cydlynol ym Mangor.

Ers mis Tachwedd, mae 23 o glybiau a chymdeithasau yn codi arian ar gyfer elusen Movember, sy’n cefnogi dynion ag iechyd meddwl a chanser. Hyd yn hyn, mae myfyrwyr wedi codi swm anhygoel o £11,883.

Mae Undeb Bangor yn gweithio gyda’r ecolegydd wedi ymddeol, John Ratcliffe, i ddatblygu Pen Y Bonc, darn bach o dir ym Mangor Uchaf. Mae’r tir yn eiddo i Gyngor Dinas Bangor, sy’n croesawu cefnogaeth gan y gymuned i’w gynnal. Ymwelodd myfyrwyr â’r safle ar 11 Rhagfyr gan wirfoddoli i godi sbwriel, torri eithin, tynnu chwyn, a chlirio llwybrau. Y weledigaeth yw creu ardal sy’n hygyrch ac yn groesawgar i bobl leol, sy’n edrych allan dros Ynys Môn ac yn annog bywyd gwyllt lleol, sy’n edrych yn daclus, ond sy’n hawdd gofalu amdani ac yn syml o ran dyluniad i adlewyrchu’r adnoddau cyfyngedig a’r llafur sydd ar gael.

Ymwelodd gwirfoddolwyr y Project Masnach Deg â dwy ysgol gynradd – Ysgol Llanrug ac Ysgol Ein Harglwyddes – i gyflwyno sesiynau addysgol a chreadigol ar Fasnach Deg yn ystod Pythefnos Masnach Deg (9 — 22 Medi). Creodd y disgyblion ddarnau celf i gymryd rhan yng Nghystadleuaeth Celf Ieuenctid Masnach Deg Cymru a daeth disgybl Blwyddyn 6 Ysgol Llanrug yn ail yn ei chategori. Mae’r project yn parhau, gyda gwirfoddolwyr newydd yn cyflwyno sesiynau yn Ysgol Y Faenol, Ysgol Corn Hir, Ysgol Henblas ac Ysgol Glancegin yn fwy diweddar.

Mae’r hydref wedi bod yn dymor prysur i ddigwyddiadau corfforaethol mewn adrannau amrywiol:

“Y Coleg ar y Bryn: 140 mlynedd o Hanes Prifysgol Bangor”: Roedd y digwyddiad yn Pontio ar 19 Hydref yn cynnwys areithiau a chyflwyniadau gan gynnwys datblygiad y Brifysgol ers 1884.

Hefyd ar 19 Hydref, dathlodd Neuadd Breswyl JMJ garreg filltir sef ei hanner canmlwyddiant, a oedd yn ddigwyddiad arwyddocaol i gyn-fyfyrwyr, cyn-breswylwyr a staff y neuadd. Roedd y digwyddiad, a oedd yn cynnwys trafodaeth banel gyda chyn-lywyddion JMJ, yn gyfle i gyn-drigolion JMJ ddod at ei gilydd ac ailfyw eu hatgofion o’u hamser yn y neuadd. Daeth y digwyddiad i ben gyda pherfformiad gan Angylion Stanli, a ychwanegodd gyffyrddiad cofiadwy a difyr i’r digwyddiad.

Roedd y digwyddiad 140 Mlynedd y Chwedlau a gynhaliwyd ar 23 Hydref yn ddathliad diwylliannol cyfoethog, gan gyfuno astudiaethau Arthuraidd ag adrodd straeon lleol a pherfformiadau artistig. Trefnwyd y digwyddiad mewn cydweithrediad â nifer o adrannau a chymdeithasau allweddol yn y brifysgol: y Gymdeithas Ddysgedig, Y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd, ac Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor a oedd yn arddangos llawysgrifau hanesyddol neu arteffactau a oedd yn berthnasol i themâu’r digwyddiad. Arweiniwyd y noson gan Yr Athro Raluca Radulescu, sy’n flaenllaw ym maes astudiaethau Arthuraidd. Darparodd y cyfuniad o drafodaethau academaidd a pherfformiadau artistig gan Gillian Brownson, Dr. Maria Hayes, ac ysgol gynradd leol brofiad amlweddog a amlygodd berthnasedd a phwysigrwydd parhaus chwedlau mewn cyd-destunau diwylliannol ac addysgol.

Bu Syr Bryn Terfel, y bas-bariton enwog, yn perfformio mewn cyngerdd arbennig yn Pontio ar y cyntaf o Dachwedd i nodi dathliadau canmlwyddiant a deugain y Brifysgol. Yn ymuno â Syr Bryn ar y llwyfan roedd y soprano Meinir Wyn Roberts, y gantores-gyfansoddwraig Eve Goodman, Mali Elwy sy’n astudio ym Mhrifysgol Bangor, a’r pianydd a’r uwch aelod staff o Adran Gerdd y Brifysgol, Dr Iwan Llywelyn Jones. Roedd y cyngerdd nid yn unig yn nodi cyflawniad arwyddocaol yn hanes y brifysgol ond hefyd yn arddangos treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog Cymru, yn enwedig ym maes cerddoriaeth a’r celfyddydau.

Roedd digwyddiad Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn Pontio ar 8 Tachwedd yn noson ddifyr a diddorol, ac yn canolbwyntio ar ddatblygu pêl-droed yng ngogledd Cymru. Roedd yn gyfle i glybiau lleol ac aelodau o’r gymuned ryngweithio’n uniongyrchol â phobl allweddol ym myd pêl-droed Cymru. Roedd y digwyddiad yn cynnwys Noel Mooney, Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, a rannodd ei weledigaeth ar gyfer dyfodol y gamp yng Nghymru. Yno hefyd roedd Cheryl Foster, a arferai chwarae dros Gymru ac sydd bellach yn ddyfarnwraig ryngwladol, a ddaeth â chyfoeth o brofiad i’r sgwrs. Roedd y digwyddiad hwn yn gyfle pwysig i’r gymuned bêl-droed leol gwrdd yn uniongyrchol â’r arweinwyr sy’n llywio dyfodol y gamp yng Nghymru.

Roedd Gwasanaeth Carolau Nadolig y Brifysgol, a gynhaliwyd ar 12 Rhagfyr, yn ddigwyddiad hyfryd Nadoligaidd, gan ddod â chymuned y brifysgol ynghyd i ddathlu tymor y gwyliau trwy gerddoriaeth a pherfformio. Roedd y digwyddiad yn draddodiad diwylliannol ystyrlon, gan roi cyfle i bawb oedi a myfyrio ar adeg o’r flwyddyn sy’n gysylltiedig â rhoi, cymuned, ac undod.

Mae Pontio yn parhau i fod yn ganolbwynt prysur i’r gymuned yr hydref hwn. Mae fabLAB yn dal i gynnal sesiynau cynefino i gyflwyno pobl i’r mannau a’r offer sydd ar gael i aelodau. Mae ‘BLAS’, rhaglen gymunedol Celfyddydau Pontio, yn parhau gyda sesiynau Caffi Babis misol, a sesiynau dawns wythnosol i bobl sy’n byw gyda chlefyd Parkinson.

Yn rhan o Fis Hanes Pobl Ddu, cynhaliodd Pontio hefyd lansiad Hanes Pobl Ddu Cymru, a oedd yn cynnwys gweithgareddau a pherfformiadau. Cynhaliwyd y digwyddiad ar 19 Hydref dan arweiniad Race Council Cymru gyda chefnogaeth y Brifysgol. Ar 22 —23 Tachwedd, cynhaliwyd Dathliad Cymru Affrica ym Methesda. Roedd yr ŵyl yn cynnwys perfformiadau cerddorol a gweithdy dawns i staff a myfyrwyr y Brifysgol gyda’r artistiaid.

Ar 24 Tachwedd, cymerodd Pontio ran yn nathliadau Cracer Nadolig Bangor. Cynhaliodd Pontio Sioe Bypedau Gweithdy Siôn Corn, oedd yn ddigwyddiad difyr i blant ac yn gyfle iddyn nhw gwrdd â’r ceirw!

Mae amrywiaeth o ddigwyddiadau’n cael eu cynnal i godi hwyl yr ŵyl yn y cyfnod cyn y Nadolig, yn ogystal â pherfformiadau gan y gymuned leol. Mae perfformiadau byw yn cynnwys ‘Culhwch ac Olwen’ i blant (11-14 Rhagfyr), Ysgol Glanaethwy yn perfformio ‘Ar Drothwy’r Wŷl’ ar 15 Rhagfyr, ‘Nadolig Ysgol Llanllechid a’r band roc’ ar 16 Rhagfyr, ‘The Nutcracker’ gan y Bale Brenhinol ar 17 Rhagfyr, a ‘Welsh of the West End’ ar 18-19 Rhagfyr. Yn ogystal, cymerodd Cerddorfa Symffoni Prifysgol Bangor ran mewn dau gyngerdd yn Neuadd Prichard-Jones, Prif Adeilad y Celfyddydau ar 10 Tachwedd ac 14 Rhagfyr.

Mae Gardd Fotaneg Treborth yn parhau’n fwrlwm o weithgareddau a datblygiadau gwych. Cynhaliodd yr ardd amrywiaeth o weithdai a sgyrsiau trwy gydol mis Hydref a mis Tachwedd, gan gynnwys gwasgu blodau, gwneud sebon botanegol, sgyrsiau garddio alpaidd, teithiau cerdded lles yn y goedwig, a gweithdai cyswllt natur. Ar 11 Tachwedd, cynhaliodd yr Ardd Fotaneg ddigwyddiad ‘Cyfnewid nid Prynu’, gan annog y gymuned i adnewyddu eu cwpwrdd dillad heb gyfrannu at effeithiau ffasiwn cyflym. Ar 15 Tachwedd, cymerodd yr Ardd Fotaneg ran mewn gweithdy ‘Dianc o’r Ardd’, dan arweiniad Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru. Canolbwyntiodd y gweithdy ar rywogaethau planhigion ymledol a mesurau atal. Bydd Treborth yn datblygu gwybodaeth ynghylch rhywogaethau ymledol i’r rhai sy’n ymweld â’r ardd i ddysgu sut i atal lledaeniad y planhigion hyn.

Ar 26 Tachwedd, cynhaliodd yr Ardd Fotaneg hefyd sesiwn hyfforddi Rhestr Coed Hynafol dan ofal Coed Cadw. Yn bresenol roedd aelodau o Gyngor Gwynedd, Cyfoeth Naturiol Cymru, Prifysgol Bangor ac ymgynghoriaethau annibynnol i ddysgu sut i gofnodi a mapio ein coed hynaf a phwysicaf yng Nghymru. Yn arwain at gyfnod y Nadolig, cynhaliodd Treborth weithdy Gwneud Torchau Nadolig ar 7 Rhagfyr a gweithdy Addurniadau Blodau Nadolig ar 8 Rhagfyr ar gyfer y gymuned leol.

Mae M-SParc hefyd yn parhau i fod yn fwrlwm o ddatblygiadau, gweithgarwch a digwyddiadau cyffrous. Ar 23 Hydref, cynhaliwyd Digidol 24, sef cynhadledd arloesi digidol gyntaf erioed M-SParc. Roedd y digwyddiad yn cynnwys cynrychiolwyr o fyd diwydiant, y byd academaidd, y llywodraeth, maes cyllid a’r gymuned a daeth â bydolwg Cymreig ffres i’r byd digidol.  Mae M-SParc hefyd wedi lansio ‘Gofod Cymraeg’, sef lle ar-lein i ymarfer eich Cymraeg, gan ddefnyddio Discord. Nod y project yw rhoi hwb i iaith pobl trwy eu trochi yn y Gymraeg mewn gwahanol ffyrdd, gyda dysgwyr yn gallu gofyn cwestiynau i siaradwyr Cymraeg. Bob dydd Gwener, mae rhywun enwog o Gymru yn ymuno am sgwrs fyw!

Ar 18 Tachwedd, lansiodd M-SParc Llyfrgell Pethau Bangor gyda Chyngor Gwynedd, Benthyg Cymru, a Maer Bangor y Cyng Gareth Parry. Mae’r cynllun yn caniatáu i bobl fenthyg amrywiaeth eang o eitemau, yn debyg i lyfrgell draddodiadol ond gydag eitemau ymarferol fel offer cegin, garddio, electroneg ac ati. Mae’r cynllun yn helpu i hyrwyddo economi gylchol, yn lleihau gwastraff ac yn annog cynaliadwyedd.

Mae digwyddiadau a gweithgareddau Clwb Sparci ar gyfer disgyblion ysgol yn parhau. Cynhaliwyd gweithdy ‘Y Cylch Dŵr’ ar 21 Tachwedd, a chynhaliwyd gweithdy ‘Sêr a Chytserau’ ar 5 Rhagfyr. Cynhelir digwyddiad olaf y flwyddyn ar 19 Rhagfyr, sy’n cynnwys Planetariwm ym mhrif safle M-SParc! Bu safleoedd ‘Ar Daith’ M-SParc ym Mangor, Pwllheli a’r Bala yn brysur iawn. Cynhaliwyd Caffi Creadigol ym Mangor ar 26 Tachwedd, gyda gweithdy ynghylch defnyddio Canva i farchnata busnesau ym Mhwllheli ar 27 Tachwedd a’r Bala ar 4 Rhagfyr. Cynhaliwyd digwyddiad ‘Arloesi a’r Economi’ hefyd yn y Bala ar 28 Tachwedd. Gellir dod o hyd i bob digwyddiad yma, ac maent i gyd yn rhad ac am ddim.

Cymerodd yr Ysgol Gwyddorau Eigion ran yng Ngŵyl Wystrys Gwyllt yr Hydref. Cynhaliwyd y digwyddiad ar Draeth y Morfa, Conwy, ar 12 Hydref. Ymunodd cydweithwyr ag aelodau o’r gymuned leol a phartneriaid i ddathlu, dysgu a diogelu ein hecosystem a’n treftadaeth arfordirol. Roedd y digwyddiad yn cynnwys celf tywod, gweithgareddau llythrennedd morol a glanhau’r traeth mewn partneriaeth â Cadwch Gymru’n Daclus.

Mae’n gyfnod prysur a chyffrous rhwng pob dim, a byddwn yn parhau i rannu diweddariadau gyda chi’n rheolaidd am ddatblygiadau’r Brifysgol mewn perthynas â’r gymuned. Ar ran y Brifysgol – Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi i gyd.

#EichPrifysgolEichCymuned

Dweud eich dweud