Menter Iaith Gwynedd yn ennill gwobr am eu prosiect ‘Croeso Cymraeg – Cymdeithas Affrica Gogledd

Mae Menter Iaith Gwynedd wedi ennill prosiect o ragoriaeth yng ngwobrau cenedlaethol y Mentrau Iaith

gan Daniela Schlick
gwobrau-mentrau-iaith-galeri-4223

Meirion Owen yn derbyn y wobr gan Einir Young a Joan Turner, WCVA

gwobrau-mentrau-iaith-galeri-6551

Yr enillwyr i gyd

gwobrau-mentrau-iaith-galeri-6272

Criw Menter Iaith Gwynedd

gwobrau-mentrau-iaith-galeri-6346

Lisa Gwilym oedd yn cyflwyno’r noson

Mae Menter Iaith Gwynedd wedi ennill prosiect o ragoriaeth yng ngwobrau cenedlaethol y Mentrau Iaith 2024 am eu prosiect ‘Croeso Cymraeg – Cymdeithas Affrica Gogledd Cymru’ ym Mangor.

Yn y prosiect, bu’r Fenter Iaith yn cyd-weithio gyda Chymdeithas Affrica Gogledd Cymru er mwyn cyflwyno’r aelodau i ddiwylliant Cymreig a’r iaith Gymraeg.

Yn ôl Meirion Owen, Swyddog Datblygu Menter Iaith Bangor, “Mae gan Gymdeithas Affrica Gogledd Cymru tua 500 o aelodau ar draws y gogledd, efo nifer ohonyn nhw ym Mangor o ganlyniad i’r brifysgol a’r ysbyty.

“Roeddem yn gwybod y byddai’r plant yn cael eu trochi yn y Gymraeg trwy’r system addysg ond roeddem yn gweld fod angen croesawu teuluoedd cyfan at y Gymraeg felly mi wnaethom gynnal sesiwn i gyflwyno iaith a diwylliant i deuluoedd oedd yn aelod o’r gymdeithas.

“Roedd amryw eisiau deall mwy am yr iaith a’r diwylliant ond ddim cweit yn barod i gofrestru i gael gwersi Cymraeg ffurfiol. Cawsom sesiynau yn canolbwyntio ar iaith syml a diwylliant Cymreig, taith i Nant Gwrtheyrn a sesiwn i blant efo Catrin Angharad Jones.

“Mae’r prosiect yn sicr wedi ysbrydoli aelodau’r gymdeithas ac roedd rhai yn dweud eu bod yn gobeithio mynd yn ôl i Nant i wneud cwrs trochi yn y Gymraeg.”

Wrth gyflwyno’r wobr, dywedodd y beirniaid, “Roedd prosiect Menter Iaith Gwynedd, Croeso Cymraeg – Cymdeithas Affrica Gogledd Cymru – yn enghraifft wych o’r croeso cynnes y gallwn ni ei roi i bobl sy’n newydd at y Gymraeg. Profodd hefyd fod y Gymraeg yn perthyn i bawb.”

Ar y noson wrth dderbyn y wobr, ychwanegodd Meirion, “Roedd ‘na nifer o’r Gymdeithas Affrica Gogledd Cymru oedd erioed wedi bod yn bellach na Chaernarfon, felly mi wnaeth y daith i Nant Gwrtheyrn agor eu llygaid i ardal newydd yng ngogledd Cymru.

“Mae’r cynllun hefyd wedi creu pont rhwng y Gymdeithas â’r gymuned leol a’r iaith Gymraeg.  Mae wedi rhoi’r hyder iddyn nhw ymuno mewn digwyddiadau yn y gymuned.”

Roedd y digwyddiad yn gyfle i ddathlu gwaith arbennig y 22 o fentrau iaith ledled Cymru yn hyrwyddo a chynyddu defnydd o’r Gymraeg mewn cymunedau.

Hwn oedd y trydydd tro i’r gwobrau cenedlaethol gael eu cynnal, ac yn hytrach na chategorïau penodol fel yn y blynyddoedd blaenorol, roedd pum prosiect o ragoriaeth yn cael eu gwobrwyo. Roedd y meini prawf yn cynnwys effaith ar y Gymraeg, arloesedd a chynhwysiant.

Y mentrau eraill enillodd wobr oedd Menter Iaith Maldwyn, Menter Iaith Caerffili, Menter Caerdydd a Menter Iaith Abertawe.

Ar y panel beirniadu, roedd Bethan Webb, Dirprwy Gyfarwyddwr Is-Adran y Gymraeg Llywodraeth Cymru, Dafydd Meredydd Pennaeth Gwasanaethau Cymraeg BBC Radio Cymru, Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg, Kate Gobir, Rheolwr Aelodaeth a’r Gymraeg WCVA a Manon Llwyd Rowlands, Cyfarwyddwr Cyflawni Gwasanaethau Mentera.

Roedd y gwobrau cenedlaethol yn cael eu noddi gan WCVA, RhAG, Technegol Cyf, Ymbweru Bro, Mentera, S4C, Cwmni Diogel, Principality, Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, Darwin Gray, Prynu’n Lleol a BBC Radio Cymru 2.

Am fwy o wybodaeth am waith Mentrau Iaith Cymru, ewch i mentrauiaith.cymru.

Dweud eich dweud